I grynhoi eich canfyddiadau, ystyriwch y canlynol:
Beth ydych chi’n ei weld ar arwyneb pob gel?

Pa mor bell mae’r gel wedi ymledu?

Cymharwch ludedd y geliau sydd wedi’u dadrewi â gludedd y geliau yn Ymchwiliad 1. Oes unrhyw newidiadau?

Wrth wneud saws gan ddefnyddio blawd gwenith, mae oeri a rhewi yn gallu achosi i’r gel ‘ddiferu’. Yr hyn sy’n digwydd yw bod yr hylif yn gollwng o’r gel, gan achosi i’r gel fynd yn llai sefydlog. Yr enw ar hyn yw olraddiad. Yn eich barn chi, sut byddai arlwywyr a gwneuthurwyr bwyd yn cymhwyso’r wybodaeth hon wrth wneud seigiau a chynhyrchion sydd i’w rhewi cyn eu gweini?