Ymchwiliwch i ryseitiau ar gyfer llenwadau tarten sy’n cynnwys startsh fel cyfrwng tewychu (rhowch gynnig ar lenwad tarten geirios, llenwad tarten afalau a llenwad tarten meringue lemon o amrywiaeth o ffynonellau).
Astudiwch y ryseitiau’n ofalus. Pryd caiff y siwgr mân (a sudd lemon yn achos y darten meringue lemon) ei ychwanegu? Beth yw’r rheswm dros hyn?
Ydy’r ryseitiau’n amrywio o ran pryd mae'r siwgr a’r sudd lemon yn cael eu hychwanegu?
Beth sy’n digwydd i sefydlogrwydd y gel os ydych chi’n cynyddu’r siwgr neu’r sudd lemon?
Ydych chi’n credu y bydd gan rai ryseitiau ganlyniadau mwy dibynadwy nag eraill?