7a Gravity fel ffilm Brydeinig
Roedd Gravity yn gymwys fel ffilm Brydeinig. Caiff ei chredydu fel ffilm wedi'i chyd-gynhyrchu gan y DU/UDA. Nodwch pam rydych chi'n credu y byddai cynulleidfaoedd, o bosibl, yn ei hystyried yn fwy o ffilm Americanaidd na ffilm Brydeinig.
- Y cyfarwyddwr o México, Alfonso Cuaron – er ei fod yn byw ym Mhrydain, nid yw o Brydain.
- Y sêr Americanaidd enwog a phoblogaidd iawn, Sandra Bullock a George Clooney.
- Mae'r ffilm wedi ei lleoli yn y gofod, sef lleoliad nad yw fel arfer yn cael ei ystyried yn Brydeinig.
- Mae'r prif gymeriadau'n Americanaidd, nid yn Brydeinig.
- O ran naratif, nid oes gan Brydain unrhyw fath o hanes o'r math hwn o archwilio'r gofod.
- Mae hon yn ffilm cysyniad uchel, sydd â chyllideb o filiynau o ddoleri – ni fyddai cwmnïau o Brydain yn gallu gwneud y ffilm hon ar eu pen eu hunain.
- Mae'n ffilm Warner Brothers yn bennaf, o ran cynhyrchu a dosbarthu.