6a Canolfannau Celfyddyd

Beth yw eich dealltwriaeth chi o 'sinemâu canolfannau celfyddyd'? Ydych chi'n gwybod pa fathau o ffilmiau maen nhw'n eu dangos?


  • Gwahanol i sinemâu prif ffrwd fel sinemâu aml-sgrin.
  • Mae'n bosibl y byddan nhw'n dangos ystod wahanol o ffilmiau.
  • Bydd y rhain yn gyfuniad o ffilmiau – sinema'r byd, cyllideb isel, ffilmiau amgen heb fod yn brif ffrwd, ochr yn ochr â ffilmiau arbenigol mwy o Hollywood.
  • Efallai bod yr apêl at fath gwahanol o gynulleidfa – cynulleidfa hŷn 35+, dosbarth canol yn bennaf, wedi cael addysg – er bod y rhan fwyaf o sinemâu arbenigol yn anelu at ddangos ffilmiau a chynnal digwyddiadau ar gyfer teuluoedd a gwylwyr iau.
  • Llai na sinemâu aml-sgrin o ran nifer y sgriniau.
  • Llai o apêl at farchnadoedd iau yn gyffredinol?
  • Mae 'canolfan celfyddyd' yn enw cyffredin ar beth sydd bellach yn cael ei ddisgrifio'n ffurfiol fel sinema 'arbenigol' – sinema sy'n gwasanaethu amrywiaeth o gynulleidfaoedd arbenigol (yn hytrach na chynulleidfa brif ffrwd, gyffredinol).

6b Ffilmiau Arbenigol Saesneg eu Hiaith


Edrychwch ar y tabl hwn sy'n seiliedig ar erthygl o Sight and Sound mis Chwefror 2014 gan Charles Gant. Roedd yn siarad am beth roedd yn ei alw'n 'ffilmiau arbenigol Saesneg eu hiaith'. Mae'r rhain yn ffilmiau a gafodd eu dangos mewn sinemâu arbenigol (canolfannau celfyddyd), er eu bod yn ffilmiau prif ffrwd, yn aml gyda sêr enwog yn ymddangos ynddyn nhw. Yn sgil eich gwaith ymchwil i sinemâu canolfannau celfyddyd arbenigol, efallai y byddwch chi wedi gweld bod y mathau hyn o ffilm yn aml yn cael lle blaenllaw ar yr amserlen, er bod pob amserlen yn cynnwys ffilmiau annibynnol hefyd.


Amlinellwch y rhesymau pam mae rhaglenwyr sinemâu canolfannau celfyddyd, arbenigol, yn dangos y ffilmiau hyn. (Mae'r ffigurau a roddir yn dangos y refeniw gan sinemâu aml-sgrin/prif ffrwd, yn ogystal â sinemâu arbenigol/canolfannau celfyddyd.) Efallai y bydd angen i chi chwilio am wybodaeth am unrhyw ffilm sy'n anghyfarwydd i chi.


FFilm Refeniw (hyd at Chwefror 2014)
Life of Pi £29,928,205
Gravity £25,763,353
Captain Phillips £15,805,169
The Great Gatsby £15,737,351
Django Unchained £15,736,884
Philomena £10,470,225
Lincoln £8,757,912
Quartet £7,303,670
Blue Jasmine £5,120,999



  • Mae bron pob un o'r ffilmiau wedi'u hanelu at ddemograffeg hŷn, 35+.
  • Dim ond dwy ffilm sy'n rhai 3D – Life of Pi a Gravity – ond mae'r ddwy yn ffilmiau mwy difrifol na'r ffilm cysyniad uchel, sinema aml-sgrin, gyffredin, felly maen nhw'n fwy tebygol o ddenu cynulleidfa 'canolfan celfyddyd'. Roedd Life of Pi yn nofel a enillodd wobr Booker, sydd wedi'i seilio ar realaeth hudol. Caiff Gravity ei hystyried yn ffilm sy'n edrych ar fywyd a marwoldeb yn fwy difrifol na ffilm fel Transformers.
  • Mae rhai'n cynnwys sêr enwog, gydag actorion uchel eu parch (Dench, Hanks, Day-Lewis, Blanchett, Seymour-Hoffman), sydd wedi ennill gwobrau Oscar ac sydd â statws uchel yn y diwydiant.
  • Mae cyfarwyddwyr yn chwarae rôl bwysig yma hefyd wrth ddenu cynulleidfa'r canolfannau celfyddyd (Lee, Cuaron, Greengrass, Luhrmann, Tarantino, Allen).
  • Mae llawer o'r ffilmiau hyn wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau mawr, ac wedi ennill y gwobrau hynny, a gallai hyn fod yn rhan o'r atyniad hefyd.
  • Gall yr elw a wneir trwy arddangos y ffilmiau hyn gefnogi'r sinemâu i arddangos mwy o ffilmiau annibynnol, nad ydyn nhw, o bosibl, yn denu cynulleidfaoedd mor fawr.