5a Gwyliau Ffilm

  • Mae gan ŵyl ffilmiau nifer o swyddogaethau. Yn gyntaf, gellir ystyried gŵyl ffilimiau fel rhywle y gall ffilmiau gystadlu â ffilmiau eraill. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae rheithgor yn penderfynu ar y ffilmiau gorau, a gellir defnyddio hyn wrth hyrwyddo'r ffilm ar ôl yr ŵyl.
  • Yn ail, mae gwyliau ffilm yn galluogi adolygwyr i weld y ffilm ar ei phwynt arddangos cynharaf. Gall hyn fod yn ddefnyddiol iawn wrth greu cyhoeddusrwydd ar gyfer ffilm na fydd y cyhoedd, o bosibl, yn ei gweld am rai misoedd – gan adeiladu cyffro ymysg y gynulleidfa. Wrth gwrs, mae'n gallu cael effaith wrthgyferbyniol os yw'r ffilm yn cael adolygiadau gwael.
  • Yn drydydd, maen nhw'n rhoi cyhoeddusrwydd i ffilmiau canolfannau celfyddyd. Fel arfer, mae'r rhain yn ffilmiau sy'n cystadlu, a bydd y gwobrau maen nhw'n eu hennill (neu beidio) yn creu diddordeb cynnar yn y ffilmiau.
  • Yn bedwerydd, mae gwyliau'n darparu marchnad i gynhyrchwyr ffilmiau bach 'werthu' eu ffilmiau i ddosbarthwyr.
  • Ac yn olaf, maen nhw hefyd yn dod yn rhywle i ddangos ffilmiau Hollywood mawr am y tro cyntaf – fel The Great Gatsby (Cannes 2013) a Gravity (Venice 2013).
  • Mae llawer o wyliau y gellir eu henwi yma – Berlin, Cairo, Cannes, Goa, Karlovy Vary, Locarno, Mar del Plata, Montreal, Moscow, San Sebastián, Shanghai, Tokyo, Venice, a Warsaw. Mae'r rhain i gyd yn cael eu hachredu gan Ffederasiwn Rhyngwladol Cymdeithasau Cynhyrchwyr Ffilm (International Federation of Film Producers Associations) yng nghategori prif ffilmiau cystadleuol. Y prif Wyliau Ffilm yn y DU yw Gŵyl Ffilmiau Llundain (LFF: London Film Festival) a Chaeredin. Mae Toronto yn ŵyl ffilmiau ddefnyddiol iawn hefyd.
  • Yn UDA, mae Gŵyl Ffilmiau Telluride, Gŵyl Ffilmiau Sundance, Gŵyl Ffilmiau Austin, South by Southwest yn Austin, Gŵyl Ffilmiau Tribeca yn Efrog Newydd a Gŵyl Ffilmiau Slamdance i gyd yn cael eu hystyried yn wyliau arwyddocaol ar gyfer ffilmiau annibynnol.

5b Adroddiadau Gwyliau Ffilm

Darllenwch y ddwy erthygl o safle ffilmiau ar-lein The Guardian trwy glicio ar y cysylltiadau. Maen nhw'n adrodd hanes Gŵyl Ffilmiau Venice 2013. Roedd Gravity wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd yn sgil ymgyrch farchnata fawr yn barod, a dyma'r ffilm a oedd yn agor yr ŵyl.

Trafodwch y cwestiynau.


1. Adolygiad Xan Brooks o Gravity


Sut mae'r adolygiad byr hwn gan Xan Brooks o fudd i (a) cynulleidfaoedd a (b) cynhyrchwyr a dosbarthwyr?

  • Ar gyfer cynulleidfaoedd, mae'n rhoi golwg gyntaf ar y ffilm ac yn cynnig barn gadarnhaol iawn amdani hefyd.
  • Mae'r adolygiad ar 29 Awst, ac nid oedd dyddiad rhyddhau Gravity yn y DU tan 8 Tachwedd – dros ddau fis i greu cynnwrf.
  • Mae'n adolygiad o ffynhonnell sydd wedi'i hen sefydlu, felly mae ganddo hygrededd.
  • Gall ysgogi safbwyntiau llafar ymhlith cynulleidfa bosibl y ffilm.
  • Gallai agor gŵyl bwysig fel Venice roi hygrededd i'r ffilm ymysg cynulleidfa ehangach y tu allan i sinema aml-sgrin hefyd.

2. Cyfweliad (Clooney, Cuaron a Bullock)


  • Rhoddir rhywfaint o bwyslais ar y cyfarwyddwr.
  • Mae'r rhan fwyaf o'r cyfweliad yn trafod technoleg y ffilm.
  • Mae'n canolbwyntio rhywfaint ar y sêr.
  • Mae'n ddiddorol nad yw agwedd 3D y ffilm yn cael ei chrybwyll rhyw lawer.
  • Mae Clooney'n ystyried y ffilm fel ffilm Bullock.
  • A yw'r clip yn sbwylio'r ffilm rhywfaint trwy ddatgelu rhai o'i chyfrinachau technolegol?

5b Seremonïau Gwobrwyo

Mae'r tymor gwobrau'n bwysig iawn i fyd y ffilmiau, am amrywiaeth o resymau.



Enwebwyd Gravity am 11 BAFTA ac enillodd 6, gan gynnwys y Ffilm Brydeinig Orau a'r Cyfarwyddwr Gorau.

Enwebwyd Gravity am 10 Oscar ac enillodd 7, gan gynnwys y Cyfarwyddwr Gorau.



Rhowch resymau pam gallai'r gwobrau hyn fod yn ddefnyddiol ar gyfer (a) cynhyrchwyr a dosbarthwyr a (b) cynulleidfaoedd?


Cynhyrchwyr a dosbarthwyr

  • Mae'r gwobrau hyn yn cynyddu cyhoeddusrwydd ar gyfer y ffilmiau cyn gynted ag y caiff yr enwebiadau eu gwneud. (Wrth gwrs, mae gwobrau'n cael eu sefydlu i farchnata ffilmiau ac i greu galw cyffredinol am ffilmiau.)
  • Mae llawer o ddadlau yn y cyfryngau ynglŷn â'r enwebiadau hyn yn y cyfnod cyn noson y seremoni wobrwyo.
  • Gellir defnyddio'r enwebiadau ar y posteri i hyrwyddo'r ffilm ymhellach.
  • Mae ffilmiau sy'n cael eu hystyried, wrth iddynt gael eu cynhyrchu, yn ffilmiau a allai gael eu gwobrwyo yn dueddol o gael eu rhyddhau yn hwyr yn y flwyddyn, ar ôl cyfnod ffilmiau blockbuster yr haf, er mwyn iddyn nhw gael eu hystyried yn y seremonïau. Mae'r ffenestr theatrig hon yn bwysig iawn.
  • Mae dosbarthwyr yn gwario llawer iawn o arian yn rhoi hysbys i'w ffilmiau er mwyn cael pleidleisiau ar gyfer eu ffilmiau nhw. Gwelir rhywfaint o hyn yng nghyhoeddiadau'r diwydiant – Variety a Screen International.
  • Os yw'r ffilm yn ennill, gellir addasu'r posteri os yw'r ffilm yn dal yn y sinemâu.
  • Gall ennill yn seremoni'r Oscars yn arbennig roi bywyd newydd i ffilm, a golygu ei bod yn cael ei dangos am fwy o amser mewn sinemâu. Enillodd Gravity wobrau yn yr Oscars ar yr un pryd â'i dyddiad rhyddhau ar DVD/Blu-ray yn y DU, felly roedd yn gyfle i hyrwyddo'r ffilm am ddim.
  • Gall ffilm lwyddiannus o ran gwobrau fod yn hanfodol ar gyfer rhyddhau ffilm y tu allan i'r theatr – bydd y pris ar gyfer gwerthu i'w dangos ar y teledu yn cynyddu, bydd mwy o ddiddordeb ar gyfer VOD a DVD/Blu-ray.

Cynulleidfaoedd

  • Gallai llawer o enwebiadau greu diddordeb mewn ffilm yng nghanol ei chyfnod yn y sinema, a denu mwy o bobl i'w gwylio.
  • Mae'r cyffro hwn yn hanfodol wrth gadw'r ffilm ar feddwl y gynulleidfa.
  • Mae'n bosibl y byddan nhw'n ceisio gwylio'r ffilm yn y theatr, neu'n ei rhoi yng nghefn y meddwl i'w gwylio yn ddiweddarach y tu allan i'r theatr.
  • Mae gwobrau'n rhoi marc ansawdd ar ffilmiau, ac mae'n bosibl y bydd hyn yn apelio at rai aelodau o'r gynulleidfa.
  • Roedd y rhan fwyaf o'r gwobrau a enillodd Gravity yn y BAFTAs a'r Oscars yn ymwneud â'r dechnoleg yn y ffilm – a dyma oedd prif bwynt gwerthu'r ffilm, ynghyd â pherfformiad Sandra Bullock, ac felly bydd yn helpu i sicrhau bod y gynulleidfa'n ystyried hyn yn beth da.