4a Rhesymau am lwyddiant Gravity
Edrychwch ar y wybodaeth am Gravity o Box Office Mojo trwy glicio ar y cyswllt.
Roedd costau cynhyrchu Gravity tua $100 miliwn, ac mae'r ffilm wedi gwneud dros dair gwaith a hanner y gost honno, felly gwnaeth elw da. Defnyddiwch y tabl i roi'r rhesymau posibl am lwyddiant y ffilm mewn trefn.
Sêr – Sandra Bullock a George Clooney
Yr ymgyrch farchnata
Y defnydd o dechnoleg 3D
Cyfarwyddwr – Alfonso Cuaron
Sioe sinematig y ffilm
Naratif y ffilm.
Mae'n siŵr eich bod chi wedi rhoi lle uchel i rôl y sêr wrth asesu'r rhesymau am lwyddiant Gravity yn y swyddfa docynnau. Mae'n ymddangos bod rôl Sandra Bullock yn y ffilm wedi chwarae rhan allweddol yn ei llwyddiant masnachol. Mae hi wedi dod yn llawer mwy poblogaidd eto dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'n ymddangos mewn nifer o ffilmiau poblogaidd a llwyddiannus.
4b Y deg seren fwyaf
Mae nifer o asesiadau i'w hystyried wrth benderfynu pa mor fawr yw seren. Fe wnaeth y cylchgrawn ar-lein Vulture lunio rhestr o'r deg seren fwyaf yn 2013. Mae Vulture wedi seilio'r rhestr ar lawer o feini prawf: swyddfa docynnau UDA, y swyddfa docynnau dramor, gwerth i stiwdios, pa mor hoffus ydyn nhw, gwobrau Oscar, barn y beirniaid, sylwadau Twitter a gwerth i'r papurau poblogaidd (tabloids).
Pwy oedd deg seren ffilm fwyaf 2013, yn eich barn chi?
Trafodwch gyda phartner cyn clicio ar y cyswllt i weld detholiad Vulture. Yna, dylech chi ystyried y cwestiynau. .
Cwestiwn 1: Cymharwch eich rhestr chi a rhestr Vultur. Ym mha ffyrdd maen nhw’n wahanol? Rhowch resymau am hyn.
Cwestiwn 2: Yn eich barn chi, pa sêr sydd ar goll o restr Vulture?
Cwestiwn 3: Pa ffilmiau, a gafodd eu rhyddhau yn 2013, sy'n gyfrifol am lwyddiant y sêr hyn?
Cwestiwn 4: A oes unrhyw beth yn y rhestr sydd yn eich synnu ynglŷn â rhyw ac oedran y sêr?
4c Sandra Bullock
Darllenwch y wybodaeth am Sandra Bullock sydd ar wefan Vulture trwy glicio ar y cyswllt, ac yna, o ystyried y wybodaeth hon, awgrymwch resymau pam mae Sandra Bullock mor llwyddiannus.
- Mae hi'n apelio at ddynion a menywod.
- O ran y gynulleidfa fenywaidd, nid yw hi'n fygythiad o ran ei hedrychiad (yn annhebyg i Jolie, er enghraifft).
- Mae hi bellach yn ei 40au hwyr. Mae'n anarferol i seren fenywaidd yn Hollywood gael prif rannau pan fydd dros 40 oed.
- Mae hi'n edrych yn unigryw iawn, ac mae hyn yn gwneud iddi sefyll allan.
- Mae'n gallu chwarae mwy a mwy o rolau gwahanol – o ffilmiau comedi (The Heat) i ffilmiau difrifol (The Blind Side) ac mae hi wedi dangos ei bod hi'n gallu agor ffilm SFX cyllideb uchel (Gravity).
- Yn yr un modd â sêr eraill ar y rhestr (Depp, Washington, Hanks, Pitt, DiCaprio, Downey Jnr) mae ganddi hirhoedledd ac mae hi'n gyfarwydd iawn â chynulleidfaoedd ffilm.
- Mae hi wedi dangos lefelau uchel o allu wrth iddi addasu o'i rolau cynnar mewn ffilmiau comedi rhamantus ysgafn.
4c Ffilmiau Sandra Bullock
Gwyliwch y rhaghysbysebion ar gyfer ffilmiau Sandra Bullock trwy glicio ar y cysylltiadau, yna trafodwch y cwestiynau cyn edrych ar yr ymatebion posibl.
Cwestiwn 1
I ba raddau mae'r rhaghysbyseb yn defnyddio Sandra Bullock i werthu'r ffilm?
Cwestiwn 2
Ydych chi'n credu bod cynulleidfaoedd yn y gorffennol wedi meddwl mai ei rôl yn All About Steve (2009) yw'r math o rôl y dylai Sandra Bullock ei chwarae? A oes unrhyw broblemau â hyn yma?
Cwestiwn 3
Ar sail y rhaghysbyseb ar gyfer The Blind Side (2009), pam rydych chi'n credu yr enillodd Bullock Oscar am y rôl hon? Sut mae'n wahanol i'w ffilm arall y flwyddyn honno – All About Steve?
Cwestiwn 4
9Yn y rhaghysbyseb ar gyfer The Heat (2013), pa fath o rôl mae Bullock yn ei chwarae? A yw hyn yn wahanol i'n disgwyliadau arferol ohoni hi?
- Mae Bullock wedi aeddfedu ers All About Steve, lle'r oedd hi'n chwarae rhan roedd hi'n rhy hen ar ei chyfer.
- Yn The Blind Side, roedd hi'n chwarae person go iawn, ond roedd y ffilm yn ei rhoi hi mewn rôl famol hefyd, sef rôl y gwnaeth hi ei harchwilio ymhellach yn Gravity.
- Mae gan y cymeriad benywaidd cryf sy'n gwneud y peth cywir yn y rhaghysbyseb ar gyfer The Blind Side dynfa emosiynol gryf sydd yn aml yn allweddol er mwyn ennill Oscar.
- Yn y rhaghysbyseb ar gyfer The Heat, mae Bullock yn chwarae'r rôl ddifrifol nesaf at swyddog heddlu dros ben llestri McCarthy. Yn y rôl hon, mae popeth dan reolaeth ganddi ar y dechrau, ond yn araf, mae'n ymlacio yng ngoleuni natur anrhagweladwy ei phartner newydd. Mae hyn hefyd yn wahanol iawn i'w phersonoliaeth 'wahanol' yn All About Steve.
- Mae Gravity yn pwysleisio sioe'r ffilm yn hytrach na chanolbwyntio ar berfformiad cryf Bullock. Fodd bynnag, mae'r ffilm yn dibynnu arni hi cymaint â'r dechnoleg i adrodd y stori. Allai'r rhaghysbyseb fod wedi bod yn wahanol?