3a Faint ohonoch chi sydd wedi gwylio Gravity:
Mewn 3D yn y sinema?
Mewn 2D yn y sinema?
Mewn 3D gartref ar deledu 3D?
Mewn 2D gartref ar deledu arferol?
- Faint ohonoch chi sydd ddim wedi gwylio'r ffilm o gwbl?
- Faint ohonoch chi gafodd eich dylanwadu gan y teimlad y dylai'r ffilm gael ei gwylio mewn 3D yn unig, yn ddelfrydol ar sgrin sinema?
- A oes unrhyw ffilmiau eraill ar wahân i Gravity rydych chi'n credu bod yn rhaid eu gwylio mewn 3D yn y sinema?
- Yn eich barn chi, beth yw atyniad ffilmiau 3D i (a) cynulleidfaoedd a (b) y diwydiant ffilm?
3b Blwyddlyfr BFI
Edrychwch ar y deunydd o Flwyddlyfr BFI ar gyfer 2014 (Yr 20 ffilm 3D mwyaf llwyddiannus yn swyddfa docynnau'r DU ar gyfer 2014, tudalen 25) trwy glicio ar y cyswllt, ac yna mewn grwpiau bach, trafodwch a gwnewch nodiadau er mwyn ateb y cwestiynau cyn edrych ar yr ymatebion posibl.
Yn ôl y tabl hwn, Gravity oedd y ffilm 3D fwyaf llwyddiannus. Dyma'r ffilm a oedd â'r gyfran uchaf o gyfanswm yr arian a wnaeth yn dod o sgriniau 3D sef 79%. Beth yw'r rheswm am hyn, yn eich barn chi?
- Yr holl gyhoeddusrwydd o amgylch y ffilm (marchnata a hyrwyddo).
- Prif bwyslais ar y dechnoleg.
- Adolygiadau'n canolbwyntio ar y sioe 3D.
- Y gwneuthurwyr ffilm yn ceisio ail-greu'r profiad o fod yn y gofod.
- Adolygiadau llafar ynglŷn â'r profiad 3D yn y sinema.
- Yr ymdeimlad ei bod yn werth talu mwy o arian i weld Gravity yn y sinema.
Gan edrych yn ôl ar y tabl, y ffilmiau 3D mwyaf llwyddiannus ar ôl Gravity oedd Walking with Dinosaurs (69%) a One Direction: This is Us (66%).
Pam, yn eich barn chi, mae’r ffilmiau hyn mor llwyddiannus mewn 3D, ac a ydyn nhw'n cynnig templed ar gyfer y dyfodol?
- Mae Walking with Dinosaurs yn cynnig profiad 'go iawn' tebyg i Gravity – mae'n ceisio dangos rhywbeth sydd wedi digwydd, ond nad oes modd ei brofi bellach.
- Mae One Direction: This is Us yn rhoi ymdeimlad o brofiad 'byw' cyngerdd pop – gan alluogi'r gynulleidfa i 'agosáu' at y grŵp.
- Efallai mai'r math hwn o ffilm yw'r ffordd ymlaen ar gyfer 3D. Gellir ehangu hyn i gynnwys gwahanol hefyd, o bosibl – theatr, bale, opera, digwyddiadau chwaraeon.
Gwelwyd y gyfran leiaf o arian o sgriniau 3D ar gyfer tair ffilm hynod o boblogaidd: Monsters University (22%), Frozen (23%) a Despicable Me 2 (25%).
Beth yw'r rheswm am hyn, yn eich barn chi?
- Ffilmiau teulu – ond efallai bod y prisiau tocynnau uchel yn rhwystr i rieni sydd â nifer o blant.
- Ymdeimlad nad yw llwyddiant y ffilmiau hyn yn seiliedig ar fod yn ffilmiau 3D.
- Mae dwy o'r ffilmiau hyn yn rhan o gyfres, ac efallai nad oedd y datblygiadau technolegol a gynigiwyd yn y ffilmiau newydd yn apelgar iawn.
- Mae'n ymddangos bod llwyddiant Frozen yn seiliedig ar ddenu cynulleidfa iau o ferched ifanc, ac efallai nad yw'r profiad 3D mor bwysig iddyn nhw â'r naratif / y cymeriadau / y nwyddau.
Pe byddech chi'n gwmni cynhyrchu ffilm sy'n ystyried llwyddiant ysgubol Gravity fel ffilm 3D, a fyddai’r llwyddiant yn eich annog i wneud ffilmiau tebyg mewn 3D? Pa broblemau posibl sy'n gysylltiedig â hyn?
- Byddai, pe bai'n rhoi profiad unigryw i'r gynulleidfa, fel mae Gravity yn ei wneud.
- Byddai angen y wybodaeth dechnolegol arnoch chi i ehangu'r profiad 3D.
- Byddai cyfarwyddwr profiadol fel Cuaron yn helpu i roi hygrededd i'r ffilm.
- Byddai'n rhaid i'r ffilm geisio denu cynulleidfa ehangach na'r bobl arferol sy'n mynd i sinema aml-sgrin – demograffeg hŷn efallai. A fyddai hefyd yn apelio at wylwyr mewn canolfannau celfyddyd, fel mae Gravity yn gwneud?
- Ymgyrch farchnata wedi'i chydlynu'n ofalus, sy'n canolbwyntio ar y datblygiadau y mae'r ffilm yn eu cynnig – gan ddefnyddio gwyliau ffilm efallai.
- Na fyddai, pe bai'n costio llawer o arian i ddatblygu'r dechnoleg.
- Pa fath o brofiadau unigryw ar gyfer y gwylwyr ydych chi'n gallu dod o hyd iddyn nhw?
- Mae rhai cyfarwyddwyr fel Nolan yn enwog am ddiystyru 3D. A yw IMAX yn ffordd well ymlaen?
- Mae un syniad ar ei ben ei hun yn llawn risg heb fod rhywbeth arall wedi'i sefydlu i'w gefnogi, fel llyfr / gêm / rhaglen deledu.
Cliciwch ar y cwestiwn i weld yr ymatebion posibl.
3c Gravity – Dyfodol 3D
Darllenwch yr erthygl o'r cylchgrawn ar-lein Americanaidd Wired. Mewn grwpiau, tynnwch sylw at y dyfyniadau sy'n gwneud y canlynol:
- 1. Esbonio i'r darllenydd pam mae Gravity yn gweithio mewn 3D.
- 2. Darparu ystadegau am lwyddiant cynnar Gravity.
- 3. Dangos sut mae Gravity yn wahanol i ffilmiau 3D eraill?
- 4. Tynnu sylw at faterion negyddol sy'n ymwneud â 3D.
- 5. Dangos pwysigrwydd 3D ar gyfer y farchnad dramor (y tu allan i Ogledd America).