Hanes uwchgwmnïau'r cyfryngau

Beth mae'r logo hwn yn ei olygu i chi?

  • Logo cwmni ffilm
  • Adnabyddus ledled y byd
  • Llawer iawn o arian
  • Cwmni Hollywood wedi'i hen sefydlu
  • Cartwnau
  • Cyswllt â llyfrau comics DC – yn enwedig Dark Knight
  • Ffilmiau Harry Potter
  • Taith Stiwdios Warner Bros. yn Leavesden ger Llundain


2b Pŵer y cyfryngau

Mewn parau, rhestrwch sut gallai pŵer enfawr TimeWarner yn y cyfryngau wneud y canlynol:


Cynnig manteision i gynhyrchwyr Gravity

  • Gallu cyrraedd cynulleidfa fwy ar draws cyfryngau gwahanol.
  • Enwau brand adnabyddus iawn sydd wedi'u hen sefydlu.
  • Yr ymdeimlad o sicrwydd ariannol y mae'r cwmni mawr hwn yn ei gynnig.
  • Mwy o gyfleoedd marchnata ar gyfer y ffilm (marchnata yn amlwg ym mhob man, gall cynulleidfaoedd gael eu targedu a'u lleoli'n ofalus).
  • Cyrraedd hanner poblogaeth America trwy ei rhyddhau'n ddirlawn (gellir cynhyrchu nifer fawr o 'brintiau' digidol o'r ffilm).
  • Mae llwyddiant ym marchnad Gogledd America fel arfer yn golygu llwyddiant byd-eang.
  • Proffil byd-eang enfawr

Cynnig manteision i gynulleidfa Gravity

Efallai y byddwch yn nodi bod rhai o'r 'manteision' hyn i gynulleidfaoedd fwy o fudd i'r cynhyrchwyr, mewn gwirionedd.

  • Oherwydd bod gan TimeWarner broffil mor uchel, mae cynulleidfaoedd yn debygol o fynd i chwilio am fwy o wybodaeth am y ffilm, a byddan nhw'n gallu ymateb i'r ymgyrch farchnata.
  • Gall cynulleidfaoedd gael budd o'r gwerthoedd cynhyrchu uchel y mae brand sydd wedi'i sefydlu, fel Warner Bros., yn gallu ei sicrhau trwy fuddsoddiad uchel.
  • Gall y gynulleidfa weld ffilm lle roedd yn ymddangos bod graddau uchel o risg ariannol, fel Gravity, gan fod TimeWarner yn gallu fforddio cymryd y risg sydd ynghlwm wrth fuddsoddiad ariannol uchel yn y dechnoleg briodol.

Cyfleusterau cynhyrchu Warner Bros. yn y DU

Darllenwch y darn canlynol am gyfleusterau cynhyrchu Warner Brothers yn y DU trwy glicio ar y cyswllt i'r wefan. Yna, trafodwch y cwestiynau cyn edrych ar yr ymatebion posibl.


Pa effaith gadarnhaol bydd agor y cyfleuster hwn yn y DU yn ei chael ar ddiwydiant ffilm Prydain?

  • Mwy o ffilmiau'n cael eu gwneud ym Mhrydain.
  • Dangos talent actio a thimau cynhyrchu Prydain.
  • Swyddi yn y diwydiant.
  • Gwneud ffilmiau gan gyfarwyddwyr o Brydain – Joe Wright/Guy Ritchie/David Yates.
  • Gall arwain at agor/ailddatblygu cyfleusterau cynhyrchu eraill – Pinewood/Elstree.
  • Proffil uwch ar gyfer diwydiant ffilm Prydain o ran cyd-gynhyrchu.

A oes unrhyw bwyntiau negyddol yn gysylltiedig â'r cyfleuster Warner Brothers hwn?

  • Gall fynd â phersonél cynhyrchu oddi wrth ffilmiau Prydeinig cyllideb is.
  • Mae'n ehangu monopoli byd-eang TimeWarner.
  • Mae'r incwm o'r ffilmiau/rhentu cynyrchiadau yn mynd yn syth yn ôl i UDA.
  • A fydd y ffilmiau a gaiff eu gwneud ym Mhrydain yn Brydeinig o ran eu diwylliant ai peidio?
  • Mae'n bosibl y bydd Warner Brothers yn defnyddio ei bersonél ei hun yn lle chwilio am arbenigwyr Prydeinig.

Cliciwch ar y cwestiwn i weld yr ymatebion posibl.