1a Gwerthiant tocynnau

Edrychwch ar y ffilmiau a wnaeth y mwyaf o arian yn 2013 a 2014, sy'n seiliedig ar ffigurau a gasglwyd o Box Office Mojo (wedi'u talgrynnu i'r $miliwn agosaf) a thrafodwch y cwestiynau cyn datgelu'r ymatebion posibl.



Y ffilmiau a wnaeth y mwyaf o arian yn 2013

Trefn Teitl Stiwdio Arian a enillwyd yn fyd-eang
($miliwn)
1 Frozen Disney $1274
2 Iron Man 3 Marvel Studios $1215
3 Despicable Me 2 Universal / Illumination $971
4 The Hobbit: The Desolation of Smaug Warner Bros. / New Line / MGM $958
5 The Hunger Games: Catching Fire Lionsgate $864
6 Fast and Furious 6 Universal $789
7 Monsters University Disney / Pixar $743
8 Gravity Warner Bros. $716
9 Man of Steel Warner Bros. / Legendary $668
10 Thor: The Dark World Marvel Studios $645

Y ffilmiau a wnaeth y mwyaf o arian yn 2014

Trefn Teitl Stiwdio Arian a enillwyd yn fyd-eang
($miliwn)
1 Transformers: Age of Extinction Paramount Pictures $1000
2 Guardians of the Galaxy Marvel Studios $771
3 Maleficent Walt Disney Pictures $758
4 X-Men: Days of Future Past 20th Century Fox $746
5 Captain America: The Winter Soldier Marvel Studios $714
6 The Amazing Spider-Man 2 Columbia Pictures $709
7 Dawn of the Planet of the Apes 20th Century Fox $708
8 How to Train Your Dragon 2 20th Century Fox / DreamWorks Animation $619
9 Interstellar Paramount Pictures / Legendary Pictures $542
10 Godzilla Warner Bros. / Legendary Pictures $525
  • Dewiswch dair ffilm o'r rhestr rydych chi wedi eu gweld. Beth sy'n gwneud y ffilmiau hyn yn ffilmiau blockbuster? Pam rydych chi’n credu eu bod nhw’n boblogaidd gyda chynulleidfaoedd?
  • Pam mae ffilmiau sy'n gwneud llawer o arian yn bwysig i'r diwydiant ffilm?

Ffilmiau blockbusterllwyddiannus

  • genre poblogaidd
  • y sêr mwyaf enwog (A list)
  • cyfarwyddwr
  • ychydig o sioe a llawer o ddigwyddiadau cynhyrfus (felly gwerthoedd cynhyrchu uchel a VFX)
  • yn addas ar gyfer y teulu, ond o ddiddordeb uniongyrchol i oedolion hefyd, er mwyn cyrraedd y gynulleidfa fwyaf bosibl
  • naratif cryf a chlir, sydd â diweddglo hapus, sy'n cysylltu â'r gynulleidfa yn emosiynol.

Yn gyffredinol, mae ffilmiau blockbuster yn boblogaidd ymysg cynulleidfaoedd oherwydd cyfuniad o'r pwyntiau uchod, ond yn ddiddorol, mae cynulleidfaoedd gwahanol yn credu bod rhai pwyntiau'n bwysicach na'i gilydd. Beth yw'r ffactor pwysicaf yn eich barn chi?


Pwysigrwydd ffilmiau blockbuster / ffilmiau sy'n gwneud llawer o arian i'r diwydiant ffilm – pwyntiau allweddol

  • Mae'r diwydiant yn defnyddio ffilmiau blockbuster i gefnogi ffilmiau eraill mae wedi buddsoddi ynddyn nhw'n llai trwm trwy gydol y flwyddyn (edrychwch yn ôl ar syniad rhyddhau 'polyn pabell')
  • Mae ffilmiau sy'n denu cynulleidfaoedd mawr o fudd i arddangoswyr – maen nhw'n gobeithio annog rhai i ddychwelyd i'r sinema.
  • Mae'n cryfhau brand cynhyrchwyr a dosbarthwyr – mae'n caniatáu i'r 'stiwdio' gael ei chysylltu â ffilmiau blockbuster o ansawdd uchel.
  • Mae'n annog ffyddlondeb cynulleidfa – mae cynulleidfaoedd yn dueddol o fynd i weld ffilmiau gan 'wneuthurwyr' ffilm flaenorol a fu'n llwyddiannus.