Pam mae penwythnos agoriadol ffilm mor bwysig i'w llwyddiant cyffredinol?

Mae agoriad cryf yn cael mwy o gyhoeddusrwydd ar gyfer ffilm

Mae'n adeiladu ar y cynnwrf sydd eisoes wedi'i greu trwy hysbysebu, marchnata a rhoi hys-bys

Mae'n gweithio trwy gyfnewid gwybodaeth gadarnhaol ar lafar

Mae'n dangos cystadleuaeth uniongyrchol â ffilmiau agoriadol eraill

Gallai annog rhagor o arddangoswyr i rentu'r ffilm gan ddosbarthwyr

Gallai fod yn ddechrau ar gyfnod hir yn y sinema

Gallai llwyddiant tocynnau arwain at ragor o lwyddiant/refeniw y tu allan i'r theatr.

Tasg 1

Monsters University ar y blaen o ran gwerthiant tocynnau yn y DU

Mae'r ffilm wedi'i hanimeiddio gan Disney, sy'n rhoi'r hanes cyn y ffilm Monsters Inc, wedi ychwanegu $4.3m (£2.8m) er mwyn cyrraedd y brig am yr ail wythnos yn olynol. Mae The World's End gan Universal wedi dioddef yn sgil y gystadleuaeth, gan agor gyda $3.2m (£2.1m).

Gan drechu'r gystadleuaeth gan yr haul a The World's End, mae Monsters University yn dal ar y brig yn swyddfa docynnau’r DU am yr ail wythnos yn olynol.

Enillodd yr ail ffilm wedi'i hanimeiddio gan Disney ym masnachfraint Monsters grynswth o $4.3m (£2.79m), gan gofnodi cyfartaledd uchaf yr 20 gorau ar y safle ar $8,044 (£5,246). Mae'r ffilm ddiweddaraf hon gan Pixar Animation Studios bellach wedi ennill $13.2m (£8.63m) yn y DU.

Bydd Monsters University yn gobeithio y bydd gwyliau'r ysgol yn rhoi hwb i'r ffilm, wrth iddi geisio olrhain canlyniadau blaenorol ffilmiau Pixar yn y DU. Y gyntaf yn ei ffordd yw Cars 2 ar $23.95m (£15.6m) a Cars ar $25.2m (£16.45m).

Efallai y bydd llwyddiant ysgubol Monsters Inc. yn y DU, sef $58.1m (£37.9m) yn anoddach ei guro.


UNIVERSAL

The World's End yw'r ffilm glo yng nghyfres Three Flavours Cornetto Edgar Wright. Mae pobl wedi bod yn disgwyl yn eiddgar amdani, a chafodd ddechrau cadarn, os ychydig yn ddinod, yn y DU, gan orfod bodloni ar yr ail safle.

Ar gyfartaledd o $6,128 (£3,997), enillodd y comedi ffuglen wyddonol grynswth o $3.2m (£2.11m), a dioddefodd o ganlyniad i dywydd poeth parhaus yn y DU.

O'i chymharu â'r ffilmiau a ddaeth o'i blaen, agorodd The World's End o flaen Shaun of the Dead ($2.5m/£1.6m) ond y tu ôl i Hot Fuzz ($9.1m/£5.9m gan gynnwys $2.5m/£1.6m mewn rhagddangosiadau). Mae'n werth nodi bod Shaun of The Dead a agorodd ym mis Ebrill, a Hot Fuzz a agorodd yn mis Chwefror wedi osgoi cyfnod ffilmiau mawr Hollywood.

Aeth Hot Fuzz yn ei blaen i ennill $32.2m (£20.99m) yn y DU, ond y targed cyntaf ar gyfer The World's End yw'r $10.3m (£6.69m) a enillodd Shaun of the Dead.


Darllenwch y darn canlynol o wefan Screen Daily sy'n ymwneud ag agoriad sinema The World's End yn y DU.

  • Pa broblemau sydd yn ymwneud ag agoriad The World's End?
  • Ydych chi'n credu y gallai Universal fod wedi osgoi rhai o'r problemau hyn?
  • Sut gallech chi ddatblygu strategaeth ryddhau wahanol ar gyfer y ffilm hon?