Edrychwch ar y poster ar gyfer y comedi Hollywood This is the End (Rogan a Goldberg, 2013). Beth yw eich argraffiadau cyntaf ynglŷn â sut mae'n gwerthu'r ffilm?

Tasg 1
This is the End (Rogan and Goldberg, 2013)
boxofficemojo.comDosbarthwr: Sony/Columbia | Dyddiad Rhyddhau: Mehefin 12, 2013 (Gogledd America) |
Genre: Comedi | Hyd: 1awr. 47mun. |
Dosbarthiad MPAA: R | Cyllideb Cynhyrchu: $32 miliwn |
Cyfanswm Crynswth Oes
Domestig | $101,470,202 (Gogledd America) 80.5% |
Tramor | $24,571,120 19.5% |
Byd-eang: | $126,041,322 |
- A yw'r wybodaeth hon yn dweud wrthym ni pam mai This is the End oedd y ffilm fwyaf llwyddiannus yn y swyddfa docynnau?
- Pa wybodaeth sydd ar goll o'r ystadegau hyn a allai roi llun mwy manwl o lwyddiant cymharol (neu ddiffyg llwyddiant) y ddwy ffilm?
- Fel grŵp, pam rydych chi'n credu bod This is the End wedi cael crynswth mwy na The World's End?
- Faint o hyn oedd yn ymwneud â'r ffaith bod The World's End yn ffilm Brydeinig?
The World's End (Wright, 2013)
boxofficemojo.comDosbarthwr: Focus Features | Dyddiad Rhyddhau: Awst 23, 2013 (Gogledd America) |
Genre: Comedi | Hyd: 1awr. 49mun. |
Dosbarthiad MPAA: R | Cyllideb Cynhyrchu: $20 miliwn |
Cyfanswm Crynswth Oes
Domestig | $26,004,851 (Gogledd America) 56.4% |
Tramor: | $20,084,436 43.6% |
Byd-eang: | $46,089,287 |
Dyma wybodaeth ystadegol eithaf sylfaenol am This is the End. Fodd bynnag, mae'n awgrymu nifer o bethau.
Cafodd ei rhyddhau gan stiwdio fawr, Sony/Columbia, felly mae'n debygol bod yr ymgyrch Print a Hysbysebu wedi bod yn gryf
Comedi yw'r ffilm – genre poblogaidd, sydd ag apêl eang
Agorodd yn ystod gwyliau'r haf ar gyfer Ysgolion Uwchradd UDA
Roedd ganddi ddosbarthiad eithaf isel o R – pobl o dan 17 oed gyda rhiant/oedolyn
Mae'n ffilm Hollywood â chyllideb ganolig o $32 miliwn ac mae wedi ennill dros dair gwaith a hanner yn fwy na hyn yn y swyddfa docynnau
Mae'r rhan fwyaf o'i llwyddiant yn y swyddfa docynnau wedi dod o farchnad anferth UDA
Nid oes unrhyw wybodaeth go iawn yma am y sêr/naratif
Mae'n anodd ei chymharu â ffilmiau tebyg
Rhesymau pam mae ei chrynswth yn fwy – marchnad ddomestig fwy
Mwy o sêr byd-eang efallai – Rogen, Hill, Franco
Cyfeiriadau diwylliannol llai penodol – h.y. tref fach yn Lloegr, tafarnau, cyfeiriadau cerddorol, crwydro tafarnau
Hiwmor llai cynnil
Themâu tebyg, ond safbwynt gwahanol
Actorion iau – demograffeg wahanol o'i chymharu ag un hŷn ar gyfer The World's End
Ffilm Brydeinig felly mae angen rhywfaint o wybodaeth am ddiwylliant Prydain i ddeall y ffilm yn llawn – yn bendant, dyma yw'r achos gyda'r ffilm hon.