Edrych ar hys-bys (plugs)
Mae rhoi hys-bys yn rhan bwysig o werthu ffilm i gynulleidfa. Fel arfer, mae hyn yn cynnwys rhoi cyfweliadau mewn amrywiaeth o gyfryngau. Edrychwch ar yr hys-bys cyntaf hwn ar wefan The Guardian a gwnewch nodiadau. Mae'n gyfweliad byr rhwng y newyddiadurwr ffilmiau Xan Brooks a Wright, Pegg a Frost.
- Pwy sy'n debygol o wylio'r cyfweliad byr hwn?
- Pa wybodaeth ychwanegol rydych chi'n ei chael yma am y ffilm?
- A yw'r wybodaeth hon yn debygol o fod o ddiddordeb i brif gynulleidfa’r ffilm neu i gynulleidfa eilaidd y ffilm?
Darllenwyr The Guardian – ABC1, pobl broffesiynol gydag addysg brifysgol, yn bennaf
Llawer o wybodaeth am y rhesymeg y tu ôl i'r ffilm, sy'n rhoi safbwynt personol iawn y cyfarwyddwr
Bydd y safbwynt o fynd yn ôl i'r fan ble cawsoch chi eich magu yn bendant yn apelio at ddynion 35-44 mlwydd oed, sef – o ystyried ffrâm amser y ffilm – y gynulleidfa eilaidd.
Mae'r ail hys-bys o The Jonathan Ross Show ar ITV1 (23/11/13). Mae'n cynnwys cyfweliad â Simon Pegg, prif seren y ffilm. Prif swyddogaeth y cyfweliad hwn oedd hyrwyddo rhyddhau'r ffilm ar DVD/Blu-ray yn y DU ar 30/11/13. Gwnewch nodiadau ar y cyfweliad.
- Pa faterion sy'n codi o'r cyfweliad hwn ynglŷn â barn pobl am lwyddiant y ffilm?
- Pwy yw'r brif gynulleidfa ar gyfer y cyfweliad hwn?
- Pa fath o bersona sy'n cael ei bortreadu gan Pegg yma?
- Sut gallai hyn gyrraedd y gynulleidfa darged ar gyfer rhyddhau y tu allan i'r theatr?
- A yw'r gynulleidfa hon yn wahanol i'r un a welodd y ffilm yn y sinema?
- Beth yw eich barn chi am y cyfweliad hwn? Ydych chi'n credu bod rhoi hys-bys yn gweithio? Rhowch resymau dros eich penderfyniad terfynol.
Mae llawer o bobl yn credu na fu'r ffilm yn llwyddiant ysgubol, am lawer o resymau – y dyddiad rhyddhau, y tywydd poeth.
Y brif gynulleidfa fyddai cynulleidfa ITV prif ffrwd, canol oed (pobl 35-55 oed). Er bod ffigurau gwylwyr Ross wedi gostwng – mae'n dal i ddenu cynulleidfa fawr – mae rhwng 2 a 3 miliwn o bobl yn gwylio'r rhaglen. Mae hyn yn golygu bod y cwmni dosbarthu yn dal i allu cyrraedd llawer iawn o bobl.
Persona'r dyn arferol sydd gan Pegg. Ychydig o 'nerd', ddim yn yfed alcohol. Mae bellach yn dad hefyd. Nid yw'n ymddangos fel un o sêr mawr Hollywood, mae'n fwy fel ffrind agos.
Prif swyddogaeth y cyfweliad yw gwerthu'r ffilm wrth iddi gael ei rhyddhau ar DVD/Blu-ray/VOD. Efallai fod hyn i wneud yn iawn am y diffyg o ran llwyddiant yn y swyddfa docynnau. Mae'n bosibl bod y gynulleidfa sy'n cael ei chyflwyno gan The Jonathan Ross Show wedi colli'r ffilm yn yr haf (gwyliau, tywydd, ffilmiau eraill yn cystadlu) ac efallai eisiau gwylio'r ffilm y tu allan i'r theatr.
Efallai ei bod yn gynulleidfa wahanol i'r un a wyliodd y ffilm yn y sinema. Cynulleidfa hŷn sy'n llai tebygol o fynd i'r sinema.
Mae'r hys-bys hwn ar gyfer rhyddhau'r ffilm y tu allan i'r theatr yn uniongyrchol ar gyfer y gynulleidfa hon.