Ysgrifennwch yn gyflym y ffyrdd rydych chi'n dod i wybod am ffilm sydd newydd ei rhyddhau.
- Rhaghysbysebion (sinema, ar-lein, hysbysebu ar y teledu)
- Posteri (byrddau poster, hysbyseb mewn cylchgrawn)
- Rhaglenni adolygu ffilmiau ar y teledu, ar y radio ac ar-lein
- Ar-lein – gwefannau
- Amserlenni sinema – mae gan safleoedd ar-lein wybodaeth am ffilmiau a rhaghysbysebion
- Adolygiadau ffilm (cylchgronau a phapurau newydd).
Dadansoddi rhaghysbyseb
Edrychwch ar y rhaghysbyseb ar gyfer y ffilm The World's End (Wright, 2013).
- Beth yw eich argraff gyntaf?
- Sut mae'n ceisio gwerthu'r ffilm?
Gwyliwch y rhaghysbyseb eto.
- Pa dystiolaeth sydd i awgrymu pwy yw'r brif gynulleidfa ar gyfer y ffilm hon?
- Ydych chi'n credu bod y rhaghysbyseb yn gweithio'n dda o ran rhoi awgrym o beth i'w ddisgwyl yn y ffilm?
- Cyn pa fathau o ffilmiau y byddai'r rhaghysbyseb hon yn cael ei dangos? Pa mor bwysig yw'r ffactor hon wrth ddenu'r math cywir o gynulleidfa?
- Ydych chi'n credu bod cynulleidfa eilaidd ar gyfer y ffilm hon? Os felly, pwy yw'r gynulleidfa hon a sut mae'r rhaghysbyseb yn apelio ati?
Dadansoddi poster - Edrychwch ar y prif boster hwn ar gyfer The World's End a thrafod y prif nodweddion.
Dewiswch liw ar gyfer cwestiynau am y poster
1. Pa mor bwysig yw'r defnydd o ddyddiad rhyddhau?
1. Pa wybodaeth weledol sy'n cael ei rhoi am y ffilm?
2. A oes awgrymiadau clir o genre'r ffilm?
3. Pa sêr adnabyddus sydd i'w gweld? Sut maen nhw'n gwerthu'r ffilm? A fyddai seren o America yn helpu i werthu'r ffilm hon yng Ngogledd America?
Ateb 1. chwech o bobl, arwydd tafarn, ffrwydrad, robotiaid/sombïaid
Ateb 2. comedi (defnydd o sêr), ffuglen wyddonol, cyfuniad
Ateb 3. Mae Simon Pegg a Nick Frost wedi gweithio gyda'i gilydd yn y gorffennol ac ar ffilmiau Edgar Wright, mae Martin Freeman yn seren deledu fawr sy'n adnabyddus yn bennaf am ei waith ar Sherlock, The Office a nawr Fargo – mae hefyd yn seren fyd-enwog yng nghyfres The Hobbit.
Roedd Paddy Considine yn Hot Fuzz hefyd, ac mae'n fwyaf adnabyddus am ei waith gyda Shane Meadows.
Eddie Marsan yn actor cymeriad adnabyddus.
Mae Rosamund Pike yn actores addawol o Brydain a fu'n serennu ochr yn ochr â Tom Cruise yn ddiweddar yn Jack Reacher.
1. Beth yw'r llinell glo? Pam mae'n gweithio?
Ateb 1. ‘Prepare to be annihilated’ – cysylltu â'r syniad o ddiwedd y byd, ond hefyd â meddwi.
1. Sut mae enw'r cyfarwyddwr yn gwerthu'r ffilm?
Ateb 1. – cysylltiadau â'i ffilmiau cynharach – denu cynulleidfa/cefnogwyr parod.





Edrychwch ar y poster rhagflas canlynol ar gyfer The World's End
- Pa mor effeithiol yw'r poster hwn wrth sefydlu ffactor disgwyl yn y brif gynulleidfa?

Edrychwch ar hysbyseb teledu UDA ar gyfer y ffilm:
- Pa ddyfeisiau sy'n cael eu defnyddio yma i werthu'r ffilm i gynulleidfa yn America?
- A fyddai'r rhain yn gweithio ar gyfer cynulleidfa ym Mhrydain hefyd? Rhowch fanylion.