Pa un o'r rhain sydd fwyaf cyfarwydd i chi, a pham?
Ydych chi'n gallu enwi unrhyw ffilmiau rydych chi wedi eu gweld sy'n dangos un o'r logos hyn ar ddechrau'r ffilm?
Pa mor bwysig yw hi i'r gynulleidfa wybod pwy sy'n cynhyrchu ffilm?
Manteision wrth i Universal a Working Title weithio gyda'i gilydd:
problemau a allai godi:
Mae'n gwmni cynhyrchu sydd wedi'i hen sefydlu yn Hollywood
Mae'n frand byd-eang
Mae gan Universal gwmni dosbarthu anferth
Mae'n gallu darparu cyllideb fawr ar gyfer Print (faint o gopïau digidol sydd o'r ffilm wreiddiol) a Hysbysebu
Mae mewn sefyllfa ddelfrydol i werthu'r ffilm i gynulleidfaoedd yng Ngogledd America
Mae ei gefnogaeth yn debygol o ddenu sêr mawr a chyfarwyddwyr sydd wedi hen sefydlu
Mae ei berthynas â Working Title yn y gorffennol wedi arwain at sawl ffilm lwyddiannus fel Four Weddings and a Funeral, Notting Hill a Love Actually.
Pellter diwylliannol rhwng safbwynt Americanaidd Universal ac ymdeimlad o Brydeindod Working Title
Mae'n bosibl y bydd hyn yn creu problemau o ran sut i leoli'r ffilmiau hyn i gynulleidfa yng Ngogledd America
Efallai y bydd yn rhaid cyfaddawdu yma, er enghraifft cynnwys actor enwog o America (Andie McDowell – Four Weddings and a Funeral, Rene Zellweger – Bridget Jones, Julia Roberts – Notting Hill)
Efallai y bydd yn rhaid gwneud newidiadau i sgript y ffilm ar sail yr anawsterau wrth werthu ffilmiau Prydeinig Working Title i farchnad hollbwysig America
Gyda maint Universal, efallai na fydd ffilmiau llai Working Title yn cael cymaint o flaenoriaeth â rhai o'u ffilmiau mwy fel masnachfreintiau Bourne a Despicable Me.