Wrth i chi wylio'r cyfweliad a gafodd ei ffilmio, gwnewch nodiadau ar y canlynol cyn gweithio ar y tasgau mewn parau neu grwpiau:
- Pam roedd yn bwysig defnyddio camerâu digidol i ffilmio?
- Pam mae ‘gwerthoedd cynhyrchu uchel’ yn bwysig ar gyfer ffilm cyllideb isel?
- Faint o amser a gymerwyd i ffilmio The Machine? Sut mae hyn yn cymharu â ffilmiau eraill?
- Ydych chi’n gallu darganfod faint o amser mae’n cymryd i ffilmio ffilmiau mawr poblogaidd UDA?
- Pa ffyrdd amrywiol mae’r gwneuthurwyr ffilm wedi eu defnyddio i geisio sicrhau gwerth cynhyrchu uchel, a sut rydych chi’n credu maen nhw wedi llwyddo i wneud hynny?
- Beth mae’r gwneuthurwyr ffilm yn ei awgrymu am bwysigrwydd golygu ffilm?
Edrychwch ar brif boster ffilm The Machine. Sut mae'r poster hwn yn marchnata'r ffilm?

- Beth yw prif nodweddion y poster hwn?
- Pa elfennau o'r ffilm sy'n cael eu defnyddio i'w marchnata (cyfeiriad at genre, sêr)?
- Yn eich barn chi, pwy yw'r brif gynulleidfa debygol ar gyfer y ffilm hon, a sut mae'r gynulleidfa honno'n cael ei thargedu?
- Edrychwch am o leiaf un enghraifft o boster ffilm sy'n marchnata ffilm yn bennaf trwy (a) genre y ffilm a (b) seren/sêr y ffilm.
Edrychwch ar y rhaghysbyseb ar gyfer The Machine.
- Yn eich barn chi, pa gynulleidfaoedd fydd yn cael eu denu gan y rhaghysbyseb? Sut maen nhw'n cael eu targedu?
- Pa mor bwysig yw seren fel Toby Stephens, a oedd yn y ffilm Die Another Day, i ffilm fel The Machine?
Pam mae 'gwerthoedd cynhyrchu uchel' yn bwysig ar gyfer ffilm gyllideb isel?
http://themachinemovie.com/
Mae'r gwneuthurwyr ffilm yn dweud eu bod wedi gweithredu fel eu dosbarthwyr eu hunain, oherwydd nid oedden nhw wedi gallu dod o hyd i'r dosbarthwr cywir ar gyfer The Machine
- Edrychwch ar wefan The Machine. Sut mae'n cael ei defnyddio i hyrwyddo The Machine? Pwy yw prif gynulleidfa'r wefan hon a sut mae'n apelio at y gynulleidfa honno?