Wrth i chi wylio'r rhan hon o'r cyfweliad, gwnewch nodiadau cyn trafod y canlynol mewn parau:
- Pam roedd yn bwysig defnyddio camerâu digidol i ffilmio?
- Pam mae 'gwerthoedd cynhyrchu uchel' yn bwysig ar gyfer ffilm cyllideb isel?
- Faint o amser a gymerwyd i ffilmio The Machine? Sut mae hyn yn cymharu â ffilmiau eraill? Ydych chi'n gallu darganfod faint o amser mae'n cymryd i ffilmio ffilmiau mawr poblogaidd UDA?
- Pa ffyrdd amrywiol mae'r gwneuthurwyr ffilm wedi eu defnyddio i geisio sicrhau gwerth cynhyrchu uchel, a sut rydych chi'n credu maen nhw wedi llwyddo i wneud hynny?
- Beth mae'r gwneuthurwyr ffilm yn ei awgrymu am bwysigrwydd golygu ffilm?