Ar sail eu profiadau nhw, mae'n debyg bod y cyfarwyddwr Caradog W. James a'r cynhyrchydd John Giwa-Amu yn awgrymu bod genre yn bwysig hyd yn oed i ffilm annibynnol, cyllideb isel.


Wrth i chi wylio'r rhan hon o'r cyfweliad, gwnewch nodiadau cyn trafod y canlynol mewn parau:

  • Esboniwch pam mae'r gwneuthurwyr ffilm yn credu y dylai ffilm annibynnol, cyllideb isel, fod yn ffilm genre?
  • Pam rydych chi'n credu bod genres yn bwysig (a) i'r diwydiant ffilm (b) i wneuthurwyr ffilm ac (c) i gynulleidfaoedd?
  • Ydych chi'n credu bod genres yn bwysicach i'r diwydiant ffilm nac i gynulleidfaoedd?
  • Yn eich barn chi, pam mae cynulleidfaoedd yn fwy tebygol o wylio ffilm genre (fel ffuglen wyddonol)?