Mewn parau, darllenwch y ddau baragraff canlynol a dilynwch y cysylltau i gael gwybod mwy am y bobl neu'r digwyddiadau. Dewiswch un o'r cysylltau a dyluniwch gyflwyniad amdano (gan ddefnyddio naill ai Prezi neu PowerPoint).


Ar ôl i chi orffen, rhannwch eich cyflwyniadau â gweddill y dosbarth oherwydd byddan nhw'n ddefnyddiol ar gyfer adolygu.


Whiplash yn ffilm o America a ryddhawyd yn 2014, wedi'i hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Damien Chazelle. Seren y ffilm yw Miles Teller ac mae'n chwarae rhan Andrew Neyman, drymiwr jazz ifanc sy'n mynychu un o'r ysgolion cerddoriaeth gorau yn y wlad i gael ei addysgu gan faestro jazz brawychus yr ysgol, Terence Fletcher (J.K. Simmons). Daeth sgript ffilm wreiddiol Chazelle ar gyfer Whiplash i amlygrwydd ar ôl cael ei chynnwys ar y Black List yn 2012.


Cafodd y ffilm ei chyflwyno'n wreiddiol fel ffilm fer ar gyfer Gŵyl Ffilmiau Sundance 2013. Enillodd y wobr am y Ffilm Fer Orau a chafodd Chazelle $3.3 miliwn gan Bold Films i wneud y ffilm fer yn brif ffilm. Arwyddodd Miles Teller gytundeb i chwarae'r brif ran. Dangoswyd y brif ffilm am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilmiau Sundance 2014, gan agor yr ŵyl. Yn fuan wedyn, cafodd Sony Pictures Worldwide yr hawliau dosbarthu rhyngwladol.