Gweithgaredd agoriadol

Ar eich pen eich hun, ceisiwch ysgrifennu diffiniad o ffilm annibynnol mewn dim mwy na 50 gair.


Edrychwch ar y diffiniad canlynol a'i gymharu â'ch diffiniad chi. Beth sy’n debyg a beth sy’n wahanol?


Mae ffilm annibynnol yn gynhyrchiad ffilm proffesiynol sy'n arwain at brif ffilm sy'n cael ei chynhyrchu'n bennaf neu'n gyfan gwbl y tu allan i system y stiwdios ffilm mawr. Yn ogystal â chael eu cynhyrchu a'u dosbarthu gan gwmnïau adloniant annibynnol, mae ffilmiau annibynnol yn cael eu cynhyrchu a/neu eu dosbarthu gan is-gwmnïau'r stiwdios ffilm mawr hefyd. Weithiau, mae cynnwys ac arddull ffilmiau'n eu marcio fel ffilmiau annibynnol, yn ogystal â'r ffordd y mae gweledigaeth artistig bersonol y gwneuthurwr ffilm yn cael ei gwireddu. Fel arfer, ond nid bob tro, mae ffilmiau annibynnol yn cael eu gwneud gyda chyllideb ffilm is o lawer na ffilmiau'r stiwdios mawr. Yn gyffredinol, mae'r ffilm yn cael ei rhyddhau'n gyfyngedig, ond gall hefyd gael ymgyrchoedd marchnata mawr a chael ei rhyddhau'n eang. Mae ffilmiau annibynnol yn aml yn cael eu dangos mewn gwyliau ffilm lleol, cenedlaethol neu ryngwladol cyn eu dosbarthu (rhyddhau yn y theatr a/neu yn y siopau). Gall cynhyrchiad ffilm annibynnol gystadlu yn erbyn cynhyrchiad ffilm brif ffrwd os oes ganddo'r arian a'r strategaeth ddosbarthu angenrheidiol.

Wikipedia


 
  • A yw 'ffilm annibynnol' wedi'i diffinio gan sut mae sefydliadau ffilm yn cael eu trefnu, neu a yw'n gysylltiedig â chynnwys naratif ac arddull y ffilm?
  • Sut mae ffilmiau annibynnol yn wahanol i ffilmiau prif ffrwd?