Cyfarwyddiadau
Llenwch y tabl isod trwy nodi’r ddau brif ddull o ymchwil marchnata ac yna cliciwch ar y botwm 'Dangos awgrymiadau'.
Dull o ymchwil marchnata
Disgrifiad
Manteision
Anfanteision
Ymchwil desg
Mae ymchwil desg yn cael ei gyflawni trwy ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth sy’n bodoli’n barod.
Mae’n gyflym a hawdd, ac yn rhad.
Nid yw ar gyfer y busnes hwnnw yn benodol. Gall fod yn rhy hen.
Ymchwil maes
Mewn ymchwil maes rydych yn casglu data sylfaenol. Mae hwn yn ddata o ffynhonnell newydd ac mae’n cael ei gasglu ar gyfer y busnes ei hun at ddiben penodol.
Mae’n rhoi data ar yr union fater y mae’r busnes eisiau gwybod amdano. Mae’r data yn gyfredol.
Gall gymryd amser i’w gyflawni. Gall fod yn ddrud.