Cyfarwyddiadau
Rhowch y term allweddol wrth ei ddisgrifiad trwy lusgo'r termau yn y blychau gwyrdd i gyfateb i'r diffiniadau cywir yn y blychau melyn.
Termau allweddol
Diffiniad
Mae 0 o'ch atebion yn gywir.
- Derbyniadau
- Elw
- Costau sefydlog
- Costau newidiol
- Cyfanswm y costau
- Costau cyfartalog
- Costau uniongyrchol
- Gorbenion
- Trothwy elw
- Y ffin diogelwch
- Cyfraniad (yr uned)
- Yr arian mae busnes yn ei ennill o werthiant yw derbyniadau. Dyma werth y gwerthiant. Term arall amdano yw trosiant.
- Y gwahaniaeth rhwng y derbyniadau a chostau.
- Costau i fusnes nad ydynt yn amrywio yn y tymor byr.
- Costau sy'n cynyddu wrth i allgynnyrch gynyddu.
- Costau cyfan y busnes. Cyfrifir cyfanswm y costau trwy adio'r costau sefydlog a'r costau newidiol.
- Cost gyfartalog cynhyrchu pob uned o allgynnyrch. Cyfrifir y costau cyfartalog trwy rannu cyfanswm y costau â'r allgynnyrch.
- Costau sy'n codi yn benodol o gynhyrchu cynnyrch neu ddarparu gwasanaeth.
- Costau nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â chynhyrchu.
- Ar y trothwy elw, mae cyfanswm y costau yn hafal i gyfanswm y derbyniadau.
- Y gwahaniaeth rhwng lefel yr allgynnyrch ac allgynnyrch adennill costau, pan fydd allgynnyrch yn uwch na'r trothwy elw.
- Dyma'r arian sydd ar ôl, wedi tynnu costau newidiol o'r pris gwerthu.