Cyfarwyddiadau
Rhowch y data yn y blychau 'pris gwerthu' a 'costau newidiol' isod, a chlicio ar y botwm 'cyfrifo'r cyfraniad' er mwyn cyfrifo'r cyfraniad. Wedyn, rhowch y data yn y blychau 'costau sefydlog' a 'cyfraniad' a chlicio ar y botwm 'trothwy elw' er mwyn cyfrifo faint o fariau mae'n rhaid i Harry eu gwerthu er mwyn adennill costau ym mis Ionawr.
Mae Harry Davies yn cynhyrchu bariau egni organig ac yn eu gwerthu i gaffis, siopau, canolfannau hamdden a gwestai lleol. Mae'r bariau hyn o ansawdd uchel ac yn cael eu gwneud o gynhwysion lleol. Ar ddechrau'r flwyddyn, ym mis Ionawr, mae'n bwriadu gwerthu pob bar am £1.00. Cost newidiol pob bar yw 60c. Ei gostau sefydlog bob mis yw £700.
Ym mis Chwefror, mae'n rhaid i Harry brynu ychydig o offer newydd sydd wedi cynyddu ei gostau sefydlog i £1000. Rhowch y data yn y blwch 'costau sefydlog' isod a chlicio ar 'trothwy elw' er mwyn cyfrifo'r trothwy elw newydd. Trafodwch effaith cynnydd mewn costau sefydlog ar fusnes Harry.
Ym mis Mawrth, mae Harry yn penderfynu newid un o'i gyflenwyr. Canlyniad hyn yw gostyngiad bach yn ei gostau newidiol i 55c. Rhowch y data yn y blwch 'costau newidiol' isod er mwyn cyfrifo'r cyfraniad yn gyntaf, ac wedyn i gyfrifo'r trothwy elw newydd. Trafodwch effaith gostyngiad mewn costau newidiol ar fusnes Harry.
Mae Harry yn ystyried codi ei brisiau er mwyn lleihau ei drothwy elw i lefel debyg i'r hyn yr oedd ym mis Ionawr. Os yw'r costau newidiol yn aros ar 55c ac mae'r costau sefydlog yn £1000, beth yw'r pris bydd rhaid iddo ei godi er mwyn cael trothwy elw o tua 1700 bar?
Trafodwch ddefnyddioldeb cyfraniadau wrth helpu Harry i redeg ei fusnes.