Cyfarwyddiadau
Prif nod y rhan fwyaf o fusnesau yw gwneud elw. Er mwyn gwneud hyn, mae'n rhaid i fusnes dderbyn mwy o arian (cyfanswm y derbyniadau) na'i gostau er mwyn cynhyrchu ei nwyddau a'i wasanaethau (cyfanswm y costau). Llenwch y data yn y tablau er mwyn plotio'r llinellau sefydlog a newidiol, llinell cyfanswm y costau a llinell cyfanswm y derbyniadau er mwyn gweithio allan y trothwy elw ar gyfer y gwerthwr hufen iâ.
Costau newidiol
Efallai bod rhaid i’r gwerthwr dalu 50c am y defnyddiau i wneud un hufen iâ. Llenwch y tabl isod i ddangos y costau newidiol.
| Nifer yr hufen iâ a werthwyd | Cost newidiol (nifer x 50c) |
|---|---|
| 0 | 0 |
| 50 | 0 |
| 100 | 0 |
| 150 | 0 |
| 200 | 0 |
| 250 | 0 |
| 300 | 0 |
| 350 | 0 |