Pennod 8 – Lleoliad Busnes

Lleoli bwyty

Cyfarwyddiadau

Mae pen-cogydd brwd yn chwilio am leoliad agos ar gyfer ei fwyty newydd. Darllenwch y disgrifiadau yn ffenestr y gwerthwr eiddo a phenderfynu pa leoliad byddech chi'n ei argymell. Defnyddiwch y blwch testun i wneud pwyntiau allweddol ar eich penderfyniad.

Pennod 8 PDF

GWERTHWR PAPURAU NEWYDD – CANOL Y DREF

  • 470 tr sg
  • Cost y rhent yw £800 y mis
  • Eiddo helaeth, â blaen sengl
  • Pobl yn mynd heibio yn ystod y dydd
  • Yn addas fel y mae neu ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau busnes gwahanol.

YSTAFELLOEDD TE/CAFFI/BISTRO

  • 350 tr sg
  • Cost y rhent yw £1200 y mis
  • Costau dŵr wedi'u cynnwys yn y rhent
  • Wedi'i ailwampio yn ddiweddar
  • Wedi'i leoli mewn lleoliad gwledig prydferth yn agos at Barc Cenedlaethol
  • Ystod o gelfi ac addurniadau ac offer arlwyo proffesiynol o ansawdd da.

SAFLE BWYTY POBLOGAIDD SYDD WEDI'I HEN SEFYDLU MEWN LLEOLIAD AMLWG YN AGOS AT GANOL Y DREF

  • 800 tr sg
  • Cynigion o gwmpas £150,000
  • Cyfleusterau parcio ceir
  • Yn estyn dros ddau lawr
  • Ystod o gelfi ac addurniadau ac offer arlwyo proffesiynol o ansawdd da.

LLETY WEDI'I GYNNWYS

  • Wedi masnachu o'r blaen fel siop prydau parod poeth Tsieineaidd, sydd ar gau ar hyn o bryd
  • 400 tr sg
  • Ddim yn gwrthod cynnig rhesymol
  • Potensial mawr
  • Y pris yw £95,000
  • Lleoliad ar ganol y ddinas
  • Pobl yn mynd heibio yn ystod y dydd.