Pennod 6 – Strwythur Busnes

Cwmnïau cyfyngedig

Cyfarwyddiadau

Mae cwmnïau cyfyngedig yn eiddo i’w cyfranddalwyr, sef y bobl sydd wedi buddsoddi arian i brynu cyfran o’r busnes. Y mwyaf o gyfranddaliadau sydd gan yr unigolyn y mwyaf o reolaeth fydd ganddo/ganddi dros y busnes. Mae dau fath o gwmni cyfyngedig:

Cwmnïau cyfyngedig preifat (Cyf.) – Mae’r cyfranddaliadau’n cael eu gwerthu yn breifat, gan amlaf i’r teulu a chyfeillion. Ni ellir gwerthu cyfranddaliadau os nad yw’r holl gyfranddalwyr yn cytuno.

Cwmnïau cyfyngedig cyhoeddus (PLC) – gellir gwerthu cyfranddaliadau i’r cyhoedd drwy’r gyfnewidfa stoc.


Darllenwch y datganiadau a phenderfynu a ydynt yn berthnasol i gwmni cyfyngedig preifat, i gwmni cyfyngedig cyhoeddus neu i’r ddau, trwy lusgo’r datganiadau i’r lle cywir ar y diagram Venn. Yna edrychwch a oeddech chi'n gywir.

Pennod 6 PDF, tudalennau 6-7

    Cwmnïau cyfyngedig preifat

    Y ddau

    Cwmni cyfyngedig cyhoeddus

    Canlyniad: