Cyfarwyddiadau
Mae gan bartneriaethau anfanteision o ran perchenogaeth busnes. Dangoswch eich dealltwriaeth trwy egluro pob un o'r anfanteision sy'n cael eu rhestru yn y tablau, er mwyn cael gweld yr atebion awgrymedig.
Anfanteision
Atebolrwydd anghyfyngedig
Anghydweld ynglŷn â chyfeiriad y busnes
Rhannu’r elw
Rhannu’r llwyth gwaith
Angen Gweithred Partneriaeth
Mae risg i eiddo’r partneriaid eu hunain gan fod gan y busnes atebolrwydd anghyfyngedig.
Gan fod rhaid i’r perchenogion weithio gyda’i gilydd, gallent anghytuno ynglŷn â rhai o’r penderfyniadau busnes y mae’n rhaid iddynt eu gwneud. Gall hyn gael effaith niweidiol ar y busnes.
Yn wahanol i unig fasnachwyr, mae’n rhaid i bartneriaeth rannu’r elw. Mae hyn yn golygu y bydd y perchenogion yn derbyn cyfran lai o’r elw am eu hymdrechion.
Pwy sy’n gwneud beth yn y busnes? Gall partneriaid anghytuno ynglŷn â’r gwahanol swyddogaethau sydd i gael eu cyflawni yn y busnes. Efallai nad yw rhai partneriaid yn ‘cario’u pwysau’ a gall hynny arwain at anghytuno.
Os nad oes Gweithred Partneriaeth y mae’r gyfraith yn dweud fod pob partner yn gyfartal. Felly dylai’r partneriaid lunio Gweithred Partneriaeth. Bydd rhaid cael cyfreithwyr i wneud hynny a bydd rhaid talu amdani.