Cyfarwyddiadau
Mae gan bartneriaethau fanteision o ran perchenogaeth busnes. Dangoswch eich dealltwriaeth trwy egluro pob un o'r manteision sy'n cael eu rhestru yn y tablau, er mwyn cael gweld yr atebion awgrymedig.
Manteision
Hawdd ei sefydlu
Rhannu’r cyfrifoldeb am ddyledion
Rhannu’r cyfrifoldeb am y llwyth gwaith
Gellir cyfrannu mwy o gyfalaf
Mwy o arbenigedd a sgiliau
Mae partneriaethau yn debyg i fusnesau unig fasnachwyr yn y ffaith eu bod yn hawdd eu sefydlu ac nad oes rhaid llenwi unrhyw ffurflenni cymhleth.
Mae gan bartneriaethau atebolrwydd anghyfyngedig, ond gellir ei rannu rhwng y partneriaid, felly mae’r baich i bob partner unigol yn llai.
Gan fod mwy o berchenogion gellir rhannu’r llwyth gwaith rhwng y perchenogion. Bydd hynny’n lleihau’r pwysau i’r perchenogion ac efallai na fydd rhaid iddynt weithio cymaint o oriau.
Mae partneriaid yn dod â chyfalaf (arian) i’r busnes. Gyda mwy o fuddsoddi mae’n bosibl na fydd rhaid i’r busnes gael benthyg cymaint a bydd ganddo well siawns o lwyddo.
Bydd partneriaid gwahanol yn dod â gwahanol sgiliau i’r busnes felly bydd mwy o arbenigeddau yn y busnes. Er enghraifft, gallai un partner fod yn well am werthu a’r llall yn well am gadw cyfrifon.