Pennod 6 – Strwythur Busnes

Manteision/anfanteision unig fasnachwyr

Cyfarwyddiadau

Mae ystod o fanteision ac anfanteision i fod yn berchen busnes unig fasnachwr. Dangoswch eich dealltwriaeth trwy egluro pob un o’r manteision a’r anfanteision a restrir yn y tablau ar y ddwy sgrin nesaf, cyn clicio’r atebion a awgrymir.

Pennod 6 PDF, tudalen 4

Anfanteision

Dim cyfyngiad ar atebolrwydd

Oriau gwaith hir

Problemau codi cyfalaf

Ni ellir arbenigo ar bopeth

Effaith salwch

Dyma’r anfantais fwyaf o fod yn unig fasnachwr, gan ei fod yn creu tipyn o risg i’r perchennog. Os nad yw’r busnes yn llwyddo yr unig fasnachwr sy’n gyfrifol am dalu’r holl ddyledion.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i unig fasnachwyr weithio oriau hirion i wneud y busnes yn llwyddiant. Does dim perchenogion eraill a all rannu’r llwyth gwaith.

Mae’n bosibl na fydd banciau a benthycwyr eraill mor fodlon rhoi benthyg, gan fod mwy o risg.

Yn wahanol i fusnesau mawr mae’n rhaid i’r unig fasnachwr gyflawni nifer o wahanol swyddogaethau, a gall hynny effeithio ar ansawdd y gwaith.

Yn aml, y mae unig fasnachwyr yn dibynnu ar un unigolyn, felly os yw’r perchennog yn sâl efallai y bydd yn rhaid i’r busnes gau.