Cyfarwyddiadau
Mae ystod o fanteision ac anfanteision i fod yn berchen busnes unig fasnachwr. Dangoswch eich dealltwriaeth trwy egluro pob un o’r manteision a’r anfanteision a restrir yn y tablau ar y ddwy sgrin nesaf, cyn clicio’r atebion a awgrymir.
Manteision
Hawdd ei sefydlu
Mwy o reolaeth gan y perchennog
Cadw’r holl elw
Hyblygrwydd oriau gwaith
Hawdd ei redeg
Gellir ei sefydlu ar unwaith a does dim ffurflenni cymhleth i’w llenwi.
Mae gan y perchennog reolaeth lwyr o’r busnes a gall wneud unrhyw newidiadau a fynnir. Mae’r perchennog yn feistr arno ei hunan a does dim rhaid iddo/iddi ddilyn cyfarwyddiadau neb arall.
Mae’r unig fasnachwr yn cadw’r holl elw a wneir gan y busnes. Does dim rhaid iddo rannu’r elw gyda neb arall. Gall hynny ei hysgogi i weithio’n galed gan ei fod yn cael cadw’r holl enillion.
Gan mai’r perchennog sydd ben, gall benderfynu pa bryd i weithio. Gall gynllunio’r oriau gwaith o amgylch y teulu a’i ffordd o fyw.
Bod yn unig fasnachwr yw’r ffordd hawsaf o redeg busnes. Bydd llawer o unig fasnachwyr yn cadw eu cyfrifon eu hunain felly ni fydd angen cyflogi cyfrifydd. Mae bod mewn rheolaeth eich hun yn golygu bod penderfyniadau yn glir hefyd.