Gofynnwch i'r myfyrwyr beth maen nhw'n credu y mae pobl yn fwyaf tebygol o gwyno amdano.

Beth mae pobl yn fwyaf tebygol o gwyno amdano, yn eich barn chi?

Gwnewch restr o'r tri phrif beth sy'n gwneud i bobl gwyno, yn eich barn chi.

Yr hysbyseb sydd wedi cael y nifer mwyaf o gwynion yw hysbyseb Zinger KFC. [1500 o gwynion]

Mae'n bwysig deall sut mae hysbysebion yn cael eu rheoleiddio (gall hyn helpu myfyrwyr hefyd wrth iddyn nhw gynllunio eu syniadau eu hunain, gan fod rheolau i'w hystyried). Mae gan wefan ASA adran adnoddau addysg sy'n ddefnyddiol ar gyfer astudiaeth bellach.

Yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA)

  • Dylai pob hysbyseb fod yn gyfreithlon, yn weddus, yn onest ac yn wir.
  • Ni ddylai hysbysebwyr chwarae ar ofn neu achosi gofid heb reswm da.
  • Ni ddylai hysbysebwyr ganiatáu nac annog trais neu ymddygiad gwrthgymdeithasol; ni ddylai hysbysebion beri tramgwydd.
  • Mae rheolau penodol yn ymwneud â honiadau iechyd o ran pethau fel tybaco ac alcohol.
  • Mae plant yn cael eu hystyried yn ofalus hefyd –'ni ddylai hysbysebion gynnwys dim byd sy'n debygol o ecsbloetio eu hygoeledd, eu diffyg profiad na'u hymdeimlad o deyrngarwch'.

[Nid yw'r ASA yn gallu sensro hysbysebion, ond mae'n gallu ymateb i gŵynion a rhoi gwybod i hysbysebwyr am bryderon y cyhoedd. Gall roi pwysau ar hysbysebwyr i roi'r gorau i ddangos hysbysebion.]

Ymwelwch â: http://www.asa.org.uk/News-resources/School-parent-resources.aspx

Hysbyseb teledu Marmite ar ffurf rhaglen ddogfen ffug

Ymatebion gwahanol

Darllenwch y wybodaeth yn y daflen i'w llwytho i lawr am yr hysbyseb teledu Marmite sydd ar ffurf rhaglen ddogfen ffug.

Gan ddefnyddio tasg chwarae rôl, cynhaliwch ddadl am yr hysbyseb.

Rolau:
  • Ymgyrchydd hawliau anifeiliaid
  • Crëwr yr hysbyseb
  • Cynrychiolydd RSPCA
  • Cynrychiolydd Unilever
  • Cefnogwyr brand Marmite
  • Beirniad ASA
 

Beth yw eich safbwynt chi? A yw'r hysbyseb yn peri tramgwydd ac yn anghyfrifol? Neu a yw'n amlwg yn jôc?

Ysgrifennwch eich ymateb personol chi.

Gallwch annog myfyrwyr i archwilio'r materion a'r dadleuon sy'n ymwneud â defnyddio enwogion i hyrwyddo cynnyrch, yn arbennig bwyd cyflym, bwyd llawn siwgr ac ati. Mewn grwpiau, gallan nhw drafod a threfnu'r gosodiadau maen nhw'n cytuno neu'n anghytuno â nhw, a/neu eu rhoi mewn hierarchaeth yn ôl y graddau maen nhw'n cytuno â nhw. Gallan nhw ddatblygu hyn trwy weithgareddau chwarae rôl, lle mae dysgwyr yn cymryd safbwynt pobl wahanol: person ifanc yn ei arddegau, rhiant, cwmni bwyd, athro, gweithiwr iechyd, etc. Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr weld y materion o safbwyntiau gwahanol. Gellir argraffu cardiau gosodiad, eu torri a'u rhannu.

Materion a dadleuon: hysbysebu a bwydydd nad ydyn nhw'n iach

Trafodwch y canlynol:

Mae enwogion yn ddelfrydau ymddwyn pwysig ar gyfer pobl ifanc. Pan fydd sêr chwaraeon fel David Beckham, Wayne Rooney neu Gareth Bale yn hysbysebu diodydd siwgr, mae'n cyflwyno’r neges anghywir.

Mae cwmnïau bwyd cyflym yn aml yn talu sêr chwaraeon ac enwogion i ymddangos mewn hysbysebion am eu bod yn boblogaidd ymysg plant. Mae hyn yn annog plant ifanc i fwyta bwydydd nad ydyn nhw'n iach.

Dim ond elw y mae hysbysebwyr yn poeni amdano. Mae enwogion sy'n ymddangos mewn hysbysebion yn cynyddu gwerthiant. Cynyddodd gwerthiant creision Walkers' pan ddechreuodd Gary Lineker ymddangos yn yr hysbysebion.

Pan fydd digwyddiadau chwaraeon yn cael eu noddi gan gwmnïau bwyd cyflym a diodydd meddal, mae'n annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon; mae hyn yn beth da.

Dylai enwogion addysgu pobl ifanc i fwyta'n fwy iach.

Mae angen gwarchod plant rhag hysbysebion.

Mae plant ifanc yn gallu gwneud eu penderfyniadau eu hunain ynglŷn â beth i'w fwyta. Nid yw hysbysebion yn eu perswadio.

Bwydydd cyflym a diodydd siwgr sy'n gyfrifol am y cynnydd mewn arferion bwyta nad ydyn nhw’n iach.

Dylid gwahardd hysbysebion diodydd meddal llawn siwgr a bwydydd nad ydyn nhw'n iach.

Ni ddylai hysbysebwyr bwydydd nad ydyn nhw'n iach gael caniatâd i roi hysbysebion ar y teledu pan fydd plant yn debygol o fod yn gwylio.

Cyfrifoldeb rhieni yw addysgu eu plant i fwyta'n iach.

Nid yw ychydig o fwyd cyflym yn gwneud niwed.