Gofynnwch i'r myfyrwyr restru'r rhesymau pam mae byrddau stori'n bwysig i gwmnïau cynhyrchu cyfryngol. Bydd astudio a dadansoddi hysbysebion teledu cyfredol yn helpu i roi gwybod i fyfyrwyr am y nodweddion allweddol i'w cynnwys yn eu dyluniadau eu hunain.
Creu bwrdd stori ar gyfer hysbysebion teledu
Beth yw bwrdd stori? Pam maen nhw'n bwysig i gwmnïau cynhyrchu cyfryngol?
- Mae cwmnïau cyfryngol yn gwario llawer o arian yn cynhyrchu hysbysebion teledu.
- Mae creu bwrdd stori yn rhan o'r broses hon.
- Mae byrddau stori'n cael eu defnyddio i amlinellu stori.
- Maen nhw'n torri hysbyseb i lawr, fesul saethiad.
- Maen nhw'n darparu cyfeirnod gweledol ar gyfer ffilmio.
- Maen nhw'n caniatáu ar gyfer adolygu neu ailfeddwl cysyniad.
Mae gosod tasg cynllunio creadigol sy'n dangos gwybodaeth a dealltwriaeth y myfyrwyr o rannau allweddol y fanyleb yn her. Mae'n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddangos beth maen nhw wedi ei ddysgu, ac yn datblygu eu sgiliau cynllunio a dylunio ar yr un pryd. Gall technolegau fod yn rhai syml. Gall templedi byrddau stori – sy'n rhoi lle i fyfyrwyr ychwanegu codau technegol, nodi synau neu drawsnewidiadau a disgrifio eu syniadau – helpu i ganolbwyntio eu dysgu.
Cynllunio creadigol: bwrdd stori
Cynlluniwch hysbyseb teledu ar gyfer cynnyrch newydd wedi'i anelu at bobl ifanc.
- Awgrymwch enw ar gyfer eich cynnyrch. Eglurwch pam rydych chi wedi ei ddewis.
- Meddyliwch am slogan addas. Eglurwch sut mae'n creu apêl. Ewch ati i greu byrddau stori ar gyfer 6–8 o’r fframiau yn eich hysbyseb.
- Eglurwch y syniadau y tu ôl i'ch hysbyseb.
- Rhowch ddau reswm pam bydd eich hysbyseb yn apelio at eich marchnad darged.
- Awgrymwch ble bydd eich hysbyseb yn cael ei gosod. Ar ba sianeli? Pryd? Yn ystod neu rhwng pa raglenni?
- Sut byddwch chi'n defnyddio'r rhyngrwyd a thechnolegau newydd i gyrraedd eich marchnad darged?
