Hysbysebion teledu firol – Shetland Pony Dance – Silly Stuff. It Matters [2013]
Pan fydd hysbysebwyr yn bwriadu i'w hysbyseb 'fynd yn firol', byddan nhw'n ei rhoi ar lein ac yn annog gwylwyr i'w rhannu â'u ffrindiau. Dechreuodd y mathau hyn o hysbysebion ymysg grwpiau tanddaearol a oedd yn hysbysebu cynnyrch ffasiynol, ond mae hysbysebwyr brandiau mawr bellach yn manteisio ar y farchnad ar-lein bosibl hefyd. Mae angen i hysbysebion firol fod yn rhyfedd, yn ffasiynol, yn peri syndod neu'n wahanol er mwyn i ddefnyddwyr eu hanfon ymlaen neu eu rhannu. Mae hysbysebwyr hefyd yn talu am le ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol ac ar YouTube.
Gwaith dilynol a gwaith ymchwil Strategaeth ymgyrchoedd firol llwyddiannus: http://www.powtoon.com/blog/viral-videos/
Ymgyrchoedd llwyddiannus eraill
Cadbury’s
Ar ôl ymddangos ar y teledu am y tro cyntaf yn 2007, llwythwyd hysbyseb 'Cadury's Gorilla' ar YouTube fel rhan o’u strategaeth platfform digidol. Aeth yn firol, ac mae miliynau o bobl ledled y byd wedi ei gwylio. Roedd yr hysbyseb nesaf, 'Cadbury’s Eyebrows‘, yn llwyddiannus hefyd.
Nike Football
Rhoddwyd hysbyseb 'The Last Game‘ ar lein yn ystod Pencampwriaeth Cwpan y Byd. Ers hynny, mae dros 54 miliwn o bobl wedi ei gwylio.
Evian – The inner child that keeps on giving
Roedd ymgyrch Evian The inner child that keeps on giving yn cynnwys y fideo 'Baby & Me' a welir yma. Enillodd un o hysbysebion eraill yr ymgyrch, 'Roller Babies', Record Guinness y Byd am yr hysbyseb ar-lein sydd wedi'i wylio gan y nifer mwyaf o bobl.