Mae brandiau mawr yn defnyddio natur gydgyfeiriol y cyfryngau heddiw i gystadlu am gwsmeriaid.
Mae John Lewis wedi bod yn lansio hysbyseb Nadolig ers 2009. Mae eu hysbyseb 2014 yn cael ei ystyried yn llwyddiant arall.
- Costiodd yr hysbyseb teledu £1 miliwn i'w wneud.
- Roedd yn rhan o ymgyrch gwerth £7 miliwn.
- Mae'r hysbyseb yn cynnwys fersiwn Tom Odell o 'Real Love' gan John Lennon.
- Lansiwyd yr hysbyseb ar YouTube cyn ei ddarlledu ar y teledu am y tro cyntaf.
- Cafodd ei wylio gan 7 miliwn o bobl yn y 24 awr cyntaf.
- Fe wnaeth yr holl nwyddau yn ymwneud â phengwiniaid yr hysbyseb werthu allan ar lein cyn i'r hysbyseb gael ei ddarlledu ar y teledu.
- Darlledwyd yr hysbyseb teledu yn ystod Gogglebox ar Channel 4.
- Lansiwyd y prif hysbyseb teledu ar ôl ymgyrch ragflas oedd yn cynnwys defnyddio Monty y pengwin ar safleoedd hysbysebu digidol yn yr awyr agored, Twitter a dynodiadau (idents) Channel 4.
Naratif
- Crynhowch yr hysbyseb mewn pum brawddeg.
- Eglurwch gynnwys pob delwedd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio termau cywir y cyfryngau.
- Nodwch y saethiadau camera a ddefnyddiwyd.
- Eglurwch sut gellid disgwyl i'r gynulleidfa ymateb.
Bydd cwmnïau hysbysebu yn cael briff gan y cleient (John Lewis yn yr achos hwn) wrth ymgymryd â phroject hysbysebu.
C. Beth rydych chi'n meddwl oedd y briff a gyflwynwyd gan John Lewis?
Amlinellwch pa fath o hysbyseb roedd John Lewis eisiau i'r cwmni hysbysebu ei greu. Pa neges roedden nhw eisiau ei chyfleu i'r gynulleidfa? Beth roedden nhw eisiau i'r hysbyseb ei ddweud am y brand?
Cwestiynau /gweithgareddau cysylltiedig
Nodwch fanteision cael gwefan swyddogol yn rhan o ymgyrch.
Gallwch weld natur gydgyfeiriol y cyfryngau yn y canlynol: y gallu i lwytho fersiwn Tom Odell o ‘Real Love’ i lawr o iTunes; gwylio’r hysbyseb teledu; cysylltu ar Facebook a Twitter; defnyddio’r ap adrodd stori Monty’s Christmas a dilyn Monty a Mabel ar Twitter. Mae’r cysylltiadau’n parhau yn y siop ei hun yn yr hyrwyddiad Monty’s Den lle mae cwsmeriaid yn gallu mynd i gael tynnu eu llun. Caiff profiad y defnyddiwr ei ystyried yn allweddol i lwyddiant. Pa brofiadau sy’n cael eu cynnig i ddefnyddwyr?
Archwiliwch y cydgyfeiriant yn 'Monty's Christmas'. Cliciwch ar y llun isod.
