Mae twf technolegau newydd, y rhyngrwyd a'r cyfryngau cymdeithasol wedi newid y ffyrdd y mae hysbysebwyr yn cyrraedd eu marchnadoedd.
- Hysbysebion baner – delweddau neu animeiddiadau ar wefan sy'n mynd â defnyddwyr at wefan yr hysbyswr wrth glicio arnyn nhw.
- Hysbysebion naid – mae'r rhain yn ymddangos ar sgrin y defnyddiwr heb i'r defnyddiwr ofyn amdanyn nhw.
- Hysbysebion rhydd – mae'r rhain yn symud ar draws sgrin y defnyddiwr.
- Hysbysebion firol – hysbysebion sy'n cael eu rhoi ar-lein i annog defnyddwyr i'w hanfon ymlaen at eu ffrindiau. Mae twf diweddar ym mha mor boblogaidd ydyn nhw wedi golygu bod hysbysebwyr brandiau mawr wedi dechrau manteisio arnyn nhw.
- Rhwydweithio cymdeithasol – gwefannau fel Twitter, Facebook a Tumblr.
- Hysbysebu symudol – mae hon yn farchnad sy'n tyfu'n gyflym, lle mae hysbysebwyr yn targedu defnyddwyr y tu allan i'w cartrefi trwy apiau, canlyniadau chwilio ar y we, cynnwys gwefannau a fideos.
- Blogiau fideo ar-lein – mae blogiau fideo ar wefannau a YouTube – fel blogiau Tanya Burr a Zoella, sydd â miliynau o ddilynwyr – yn cynnwys llawer o hysbysebion wedi'u targedu.
Gofynnwch i'r myfyrwyr restru'r holl ffyrdd mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi newid y byd hysbysebu, yn eu barn nhw.
Mae archwilio technolegau newydd yn helpu i baratoi myfyrwyr ar gyfer y cwestiynau ehangach. Mae ar fyfyrwyr angen deall cydgyfeiriant a'r ffyrdd y mae hysbysebion print a theledu yn chwarae rôl ochr yn ochr â dulliau newydd o hysbysebu.
Mae'r Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA: Advertising Standards Authority) wedi datgan bod bellach disgwyl i flogwyr fideo ar-lein ei gwneud yn glir eu bod nhw wedi cael eu talu i roi sylw i frandiau penodol neu gynnyrch penodol yn eu fideos. O'r blaen, nid oedd hyn yn glir, er bod blogwyr fideo adnabyddus yn cael miloedd o bunnau am 'hyrwyddo' neu roi sylw i gynnyrch arbennig.
- Gall brandiau ymgysylltu'n uniongyrchol â chynulleidfaoedd.
- Mae yna elfen o uniongyrchedd. Bydd hysbysebwyr yn gwybod ar unwaith a yw rhywbeth yn gweithio'n effeithiol ai peidio, trwy'r nifer o bobl sydd wedi 'hoffi' yr hysbyseb.
- Mae cynulleidfaoedd yn ymddiried mwy a mwy yn y botwm 'hoffi' ac yn fwy tebygol o gael eu dylanwadu gan bobl maen nhw'n eu hadnabod neu mae ganddyn nhw gysylltiad â nhw, yn hytrach na gan sêr mawr ac enwogion.
- Gall blogwyr fideo fod yn ddylanwadol iawn. Mae gan rai ohonyn nhw dros 5–6 miliwn o ddilynwyr.
- Mae brandiau mawr bellach yn troi at y blogwyr fideo hyn i hyrwyddo eu brandiau a'u cynnyrch.
Mae brandiau fel Asda yn defnyddio dulliau mwy arloesol o hysbysebu. Er enghraifft, maen nhw'n rhoi cynnwys ar Facebook ddwy neu dair gwaith y dydd, ac mae defnyddwyr yn cael eu hannog i ryngweithio a dylanwadu ar benderfyniadau dylunio cynnyrch [er enghraifft, efallai y byddan nhw'n cynnig tri dyluniad posibl ac yn gofyn i ddefnyddwyr ddewis eu hoff ddyluniad].
Llwythodd Zoella fideo i fyny i’w sianel YouTube ohoni hi’n gwneud cacennau gan ddefnyddio rysáit o gylchgrawn Asda. Golygodd Zoella’r fideo a ganddi hi oedd y rheolaeth drosto, ond fe dalodd Asda iddi am ddefnyddio'r rysáit, ac roedd y fideo yn cynnwys cyswllt at rysáit Asda.