Trosglwyddo sgiliau a rhoi gwybodaeth ar waith: gall dadansoddi hysbysebion teledu helpu i baratoi myfyrwyr ar gyfer Adran B yn y papur arholiad, yn ogystal â chyfnerthu eu dealltwriaeth o ymgyrchoedd hysbysebu. Dylid gwneud nodiadau wrth astudio hysbyseb Dior. Gall delweddau llonydd helpu â'r pwyntiau allweddol.
Mae'r pwyntiau y dylid eu trafod yn cynnwys y defnydd o liw/ffont/arddull i greu hunaniaeth y brand, yn ogystal â'r defnydd o sêr y presennol a sêr y gorffennol. Dylid rhoi sylw hefyd i'r gynulleidfa darged, y strwythur a'r dull o adrodd stori. [Cysylltiadau â dysgu blaenorol]
Mae'r pwyntiau y dylid eu trafod yn cynnwys y defnydd o liw/ffont/arddull i greu hunaniaeth y brand, yn ogystal â'r defnydd o sêr y presennol a sêr y gorffennol. Dylid rhoi sylw hefyd i'r gynulleidfa darged, y strwythur a'r dull o adrodd stori. [Cysylltiadau â dysgu blaenorol]
Sut mae hysbyseb teledu Dior yn creu apêl?
Gellir defnyddio'r adnoddau dosbarth y gellir eu hargraffu ar y cyd â'r sleidiau. Gall anodi'r sleidiau helpu gyda dealltwriaeth o godau technegol a chreu bwrdd stori. Mae'r defnydd o liw yn ddiddorol o ran ei gysylltiadau/awgrymiadau, yn ogystal â'r cyswllt â'r botel ei hun. Yn ei hanfod, mae Charlize Theron yn personoli'r persawr – lliw euraidd ei chroen/saethiad agos o'i gwddf a'r mwclis/silwét ei chorff ac ati. Gellir ystyried yr hysbyseb hwn yn un nodweddiadol ar gyfer persawr, ac felly mae'n ddefnyddiol wrth baratoi myfyrwyr i greu bwrdd stori ar gyfer hysbyseb.
Sgiliau gwneud nodiadau
Gwyliwch yr hysbyseb gan wneud nodiadau ar y canlynol:
- codau sain a gweledol
- y lleoliad
- y sefyllfa / y naratif
Yn yr hysbyseb
Nodwch y defnydd o sêr Hollywood o’r presennol a'r gorffennol.
Nodwch sut mae'r seren yn cael ei chysylltu ag enw'r cynnyrch.
Nodwch sut mae'r lliw a gaiff ei ddefnyddio trwy gydol yr hysbyseb yn cysylltu â'r cynnyrch. Beth mae'r enw Ffrangeg yn ei awgrymu?
Ewch ati i grynhoi ystyr yr hysbyseb gan ddefnyddio'r grid 30 gair
Mewn parau, gofynnwch i'r dysgwyr gyfuno eu nodiadau a blaenoriaethu'r elfennau pwysicaf, gan gynnwys geiriau allweddol, a chysylltu'r brand â'r seren enwog a'r ddelwedd ar gyfer y gynulleidfa. Mae rhoi'r myfyrwyr mewn parau yn caniatáu ar gyfer cyfiawnhad, esboniad a chonsensws. [grid 30 gair]
Presenoldeb traws-blatfform
Mae mwy na 10 miliwn o bobl wedi gweld yr hysbyseb ar YouTube. Mae archwilio'r wefan swyddogol, lle mae'r hysbyseb yn cael ei dangos, yn caniatáu ar gyfer datblygu dealltwriaeth y disgyblion o bwysigrwydd presenoldeb ar-lein wrth hysbysebu yn yr 21ain ganrif. Gall taflen gwestiynau roi canolbwynt i waith archwilio’r myfyrwyr.
Sut mae’r brand yn cael ei greu?
Sylwadau ar y ffontiau a ddefnyddiwyd.
Sut mae'r hysbyseb yn annerch y gynulleidfa darged?
Pa nodweddion rhyngweithiol sydd?
Beth mae nodweddion arferol gwefannau – cysylltiadau, hypergysylltiadau, bariau llywio, dewislenni, mannau poeth (hotspots), etc. – yn ei ychwanegu at brofiad y defnyddiwr o'r brand?
Y gynulleidfa darged
Gellir defnyddio'r gweithgaredd creadigol hwn i bwysleisio pa mor greiddiol yw'r gynulleidfa i'r strategaethau marchnata a gaiff eu mabwysiadu.
Mae gan hysbysebwyr syniad clir o’u cynulleidfa darged, ac yn bwysicach fyth, sut mae aelodau o'r gynulleidfa honno yn gweld eu hunain.
Mae gwefan Dior yn disgrifio cynulleidfa j'adore fel a ganlyn:
"She has an aura, a particular strength a particular radiance. Her strength and determination shine through the intensity of her movements. With an air of freedom, she leaves confidence and passion in her wake with utter serenity. She blossoms with sheer radiance. Such is the j’adore woman.”
Meddyliwch yn ôl i hysbyseb Dior. Sut mae'r weledigaeth hon yn cael ei dangos yn yr hysbyseb?
Meddwl yn greadigol:
- Dewiswch frand rydych chi'n gyfarwydd ag ef, ac ysgrifennwch broffil cynulleidfa mewn ffordd debyg.
- Cymharwch y brandiau sydd wedi'u dewis yn y dosbarth.
- Pa mor effeithiol rydych chi wedi adlewyrchu'r gynulleidfa darged?