Dadansoddi hysbysebion
Bydd pob un o'r testunau y byddwch yn eu hastudio wedi cael eu llunio i apelio at gynulleidfa.
Beth mae'r termau llunio a dadansoddi yn ei olygu?
Llunio yw'r broses o greu testun ar gyfer y cyfryngau – fel hysbyseb – gan ddefnyddio delweddau, lliw, testun a dyfeisiau fframio.
Mae cynulleidfaoedd (a myfyrwyr y cyfryngau) yn dadansoddi testunau er mwyn deall sut maen nhw'n creu ystyr.
Dadansoddi hysbyseb print

Mae'r dillad a'r colur gwyrdd a brown yn awgrymu byd natur.
Be Delicious yw enw cynnyrch persawr gwreiddiol DKNY. Mae'r gorchymyn yn chwareus, ac mae'n cysylltu'r persawr â'r ddelwedd o afal a siâp y cynnyrch.
Mae'r ffont mewn priflythrennau yn ffont trwm, sy'n awgrymu hyder yn y cynnyrch. Mae'r enw wedi'i leoli'n ganolog uwchben y cynnyrch, ac o dan ganolbwynt y model.
Mae ymuno â'r ‘Core Club’ ar Facebook a Twitter yn apelio at angen y gynulleidfa i berthyn. Mae hysbysebwyr yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i ehangu eu hymgyrch.
Mae disgleirdeb yr haul yn rhoi effaith eurgylch o amgylch y model.
Mae'r model yn edrych yn uniongyrchol ar y gynulleidfa, ac mae hyn yn creu cysylltiad â nhw.
Mae'r testun 'the fragrance for women' yn angori'r gynulleidfa darged..
Mae'r cynnyrch wedi'i leoli ym mlaendir y ffrâm.
Mae enw'r brand yn amlwg. Mae'r gwyn yn gwrthgyferbynnu â'r gwyrdd, ond mae hefyd yn gweddu i'r palet lliw.
Canolbwynt: cefnogaeth enwogion
Cwestiwn: Sut a pham mae cwmnïau'n defnyddio sêr i hyrwyddo eu cynnyrch?
Brand + Enwogion = £££
Cysylltwch y seren enwog â'r brand mae'n ei hysbysebu
Rhaid i’r myfyrwyr gysylltu'r brandiau â'r enwogion [mae cardiau y gellir eu hargraffu ar gael hefyd]. Nod rhoi adborth a gofyn cwestiynau yw datblygu dealltwriaeth o pam mae sêr yn cael eu defnyddio i hyrwyddo cynnyrch a brandiau. Mae hyn yn arwain at drafodaeth o'r manteision i gwmnïau. Weithiau, nid yw'r berthynas yn gweithio, felly mae hefyd yn ddefnyddiol trafod rhai achosion lle mae cefnogaeth gan enwogion wedi arwain at niweidio enw'r brand.
Rhoi adborth am gysylltiadau llwyddiannus i'r dosbarth. Myfyrwyr i ddewis pâr cyfatebol ac archwilio'n fanylach y ffyrdd y mae personoliaeth a delwedd y seren wedi cael eu defnyddio i hyrwyddo'r brand. Wrth ddilyn y cwrs, efallai fod y myfyrwyr eisoes wedi astudio theori sêr/persona sêr/y syniad bod cynulleidfaoedd yn uniaethu ag enwogion mewn ffyrdd gwahanol drwy uniaethu â nhw/cydymdeimlo â nhw/eisiau bod yn debyg iddyn nhw/eu gweld fel delfrydau ymddwyn a ffigurau ysbrydoledig, etc. Y pwynt dysgu pwysig yma yw bod delfrydau/gwerthoedd/nodweddion yn cael eu trosglwyddo o'r seren enwog i'r brand.
Rydych chi wedi cysylltu 0 yn gywir.
http://all-free-download.com/free-vector/worldrenowned-brands-logo.html
Sut mae defnyddio enwogion yn fantais i hysbysebwyr?
- Gall helpu pobl i adnabod brand
- Mae gan gynulleidfaoedd berthynas a chysylltiad â'r seren enwog yn barod
- Mae rhai cynulleidfaoedd yn dyheu am fod fel rhai sêr enwog penodol
- Gall llun seren enwog atgyfnerthu nodweddion y cynnyrch
- Gellir trosglwyddo gwerthoedd brand – felly, os yw athletwr llwyddiannus yn gwisgo Nike, rydym yn cysylltu llwyddiant yr athletwr â'r brand hwnnw
- Gall godi ymwybyddiaeth o'r cynnyrch yn gyflym
- Gall ddenu defnyddwyr newydd
- Gall roi bywyd newydd i frand sydd eisoes wedi'i sefydlu
Mae defnyddio sêr yn llwyddiannus yn dibynnu ar y tri ffactor canlynol
Dangos eich dealltwriaeth
- Dewiswch un seren enwog a'r brand mae'n ei hysbysebu.
- Eglurwch pam mae'r person wedi cael ei ddewis i hyrwyddo'r brand hwnnw.
- Defnyddiwch eich gwybodaeth flaenorol am y meini prawf ar gyfer sêr a theori sêr.
Dylech chi anelu at ysgrifennu paragraff.
Meini prawf llwyddiant
Rhaid i chi wneud y canlynol:
- Defnyddio terminoleg
- Cysylltu'r brand â'r seren enwog gan resymu’n glir
- Cyfeirio at y gynulleidfa
- Ategu gyda theori sêr
Enghraifft: Beckham a H&M
Mae Beckham yn seren Brydeinig lwyddiannus sy’n enwog am chwarae pêl-droed. Mae hefyd yn eicon byd-eang. Yn gynnar yn ei yrfa, ar y cae pêl-droed ac oddi arno, mae wedi cael ei gysylltu â steil a ffasiwn.
Mae H&M yn siop stryd fawr fforddiadwy/prif ffrwd. Mae ei ddelwedd fel seren yn apelio at ddynion a menywod. Mae hyn yn ehangu'r farchnad darged gan ei fod wedi bod yn llwyddiannus yn broffesiynol ac yn ei fywyd personol.
Star Persona, Dyer
Mae Beckham yn ennill £100,000 y dydd wrth hyrwyddo brandiau eraill ac o gynnyrch ei frand ei hun.

Cynllunio creadigol
- Bydd cynnyrch yn cael ei roi i chi.
- Gweithiwch gyda phartner i benderfynu pwy fyddai'n addas i hysbysebu'r cynnyrch, yn eich barn chi.
- Meddyliwch am y canlynol:
- cyllideb
- cynulleidfa
- disgwyliadau
- delwedd y seren
Dyluniwch eich hysbyseb brint eich hun ar gyfer cynnyrch wedi'i anelu at bobl ifanc
- Gan ddefnyddio papur a phensiliau, gwnewch fraslun o ddyluniad ar gyfer hysbyseb.
- A fyddwch chi'n defnyddio seren enwog neu dechneg wahanol?
- Ysgrifennwch y copi.
- Dylech chi gynnwys slogan.
- Dyluniwch logo.
- Cofiwch pwy yw eich cynulleidfa darged.
- Labelwch eich syniadau, a'u hegluro.