Pwynt dysgu: datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o fyd marchnata a rôl hysbysebion print wrth hyrwyddo a gwerthu nwyddau.

Cyflwyniad – hysbysebion print

Mae hysbysebion print yn ffordd o hysbysebu sy'n defnyddio gwrthrychau, fel papurau newydd, cylchgronau a byrddau poster i gyrraedd defnyddwyr.

Mae hysbysebion print yn dal i chwarae rôl bwysig mewn byd lle mae hysbysebwyr yn defnyddio mwy a mwy ar gyfryngau digidol i gyrraedd cynulleidfaoedd targed.

Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn gyfrwng effeithiol ar gyfer hysbysebion baner, hysbysebion naid a hysbysebion noddedig.

Hysbysebu symudol yw'r ffordd o hysbysebu sy’n cael ei ffafrio heddiw, oherwydd mae'n cyrraedd mwy a mwy o bobl o hyd.

Fodd bynnag, mae hysbysebwyr yn defnyddio'r cyfryngau newydd hyn ochr yn ochr â dulliau mwy traddodiadol. Gall hysbysebion print godi ymwybyddiaeth o gynnyrch, cyfrannu at godi proffil brand a chynyddu gwerthiant yn y pen draw.

Gofynnwch i fyfyrwyr feddwl am y gwahaniaethau rhwng hysbysebion print a ffyrdd eraill o farchnata. Gall y grid y gellir ei argraffu helpu myfyrwyr i ganolbwyntio eu pwyntiau. Gall trafodaethau fod yn gysylltiedig â phrofiad myfyrwyr o hysbysebion hefyd, a'r ffyrdd mwyaf effeithiol o hysbysebu yn eu barn nhw. A yw rhai ffyrdd o hysbysebu yn fwy addas ar gyfer mathau gwahanol o gynulleidfaoedd? Meddyliwch am Facebook, YouTube, apiau, Instagram, Twitter a hysbysebion noddedig, cynnydd blogiau fideo, a phobl sydd â'u sianeli YouTube eu hunain, etc.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y ffyrdd hyn o hysbysebu?

Print
Teledu
Rhyngrwyd
Symudol
Argraffu'r PDF
Gall hysbysebion print dargedu cynulleidfaoedd penodol sydd â diddordebau penodol. Bydd y gynulleidfa'n treulio amser yn darllen hysbysebion, gan olygu ei bod yn fwy tebygol y byddan nhw'n cysylltu â'r brand. Mae'r neges yn fwy tebygol o gael ei chyfleu a'i derbyn oherwydd bydd ymchwil i'r gynulleidfa wedi sicrhau bod yr hysbyseb brint wedi cael ei rhoi yn y math cywir o gyhoeddiad.
Gall hysbysebu ar y teledu gyrraedd cynulleidfa fawr/prif ffrwd. Mae'n llawer drutach, ond gallai'r hysbysebion gyrraedd miloedd o bobl. Gallan nhw hefyd gyrraedd cynulleidfaoedd penodol wrth eu gosod rhwng rhaglenni penodol. Mae cannoedd o sianeli masnachol. Caiff hysbysebion eu hailadrodd, felly mae pobl yn ymgyfarwyddo â nhw. Mae mantais i ddelwedd symudol a sain, e.e. mae canigau (jingles) yn gofiadwy.
Mae hysbysebu ar y rhyngrwyd yn defnyddio technolegau newydd ac yn galluogi olrhain gweithgarwch ar-lein y defnyddwyr – 'cwcis' yw'r enw arall ar hyn – sy'n golygu bod yr hysbysebion naid a baner y bydd defnyddwyr yn eu gweld wedi'u teilwra ar gyfer eu diddordebau penodol. Ar ôl prynu rhywbeth ar lein, neu hyd yn oed ar ôl pori'r we, mae’n bosibl y bydd hysbyseb naid ar gyfer cynnyrch tebyg neu gysylltiedig yn ymddangos yn fuan ar ôl i’r defnyddiwr brynu cynnyrch neu chwilio am rywbeth.
Mae cynnydd yn nifer y ffonau clyfar wedi cyfuno/canolbwyntio gweithgarwch yng nghledr y llaw. Gall defnyddwyr wylio teledu, chwarae gemau, pori'r we, defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, gyda hysbysebion wedi'u gosod yn ofalus ym mhob un. Mae hysbysebu symudol yn uniongyrchol iawn ac wedi'i deilwra ar gyfer y defnyddiwr.
Gofynnwch i fyfyrwyr restru holl fanteision hysbysebion print. Gallai myfyrwyr ddadlau bod y cyfryngau cymdeithasol yn fwy uniongyrchol, wedi'u teilwra yn arbennig ar gyfer y defnyddiwr, ac yn cyrraedd mwy o bobl. Ond, mae hysbysebion print yn dal i gael eu hystyried yn rhan bwysig o ymgyrch farchnata 360 gradd, lle mae hysbysebwyr yn ceisio creu profiad brand cyffredin ar lein ac oddi ar lein.

Felly beth yw manteision hysbysebion print?

  • Cyffyrddadwy – mae cylchgronau o gwmpas am amser hir, ond gall hysbysebion ar y rhyngrwyd ddiflannu ar ôl clic.
  • Mae hysbysebion print yn helpu i gyfnerthu'r brand, ac maen nhw’n cael eu cysylltu drwy’r lliw, ffont, arddull a delweddau'r hysbysebion.
  • Mae hysbysebion print yn cael eu darllen yn arafach na hysbysebion ar-lein – felly mae’n fwy tebygol y bydd cysylltiad yn cael ei wneud.
  • Mae hysbysebion mewn cylchgronau sy'n trafod ystod eang o ddiddordebau'n gallu cyrraedd cynulleidfaoedd penodol ac arbenigol yn effeithiol.
  • Gall byrddau poster a phosteri ddal defnyddwyr y tu allan i'w cartrefi, yn agos at y man prynu.
  • Ffactor ymddiried – mae pobl yn wyliadwrus ac yn ddrwgdybus o hysbysebion naid a baner, ac mae eu hymyrraeth yn gallu gwylltio pobl.
  • Mae llai o gystadleuaeth yn y byd print. Mae'r byd ar-lein yn llawn hysbysebion, a dim ond 1 hysbyseb o bob 10 sy'n cael ymateb.
Gofynnwch i fyfyrwyr ysgrifennu 5 brand maen nhw'n gyfarwydd â nhw. Gofynnwch iddyn nhw beth maen nhw'n ei wybod am y brand, pa frandiau maen nhw'n debygol o gael eu denu atyn nhw a pham. Gallai hyn arwain at drafodaeth am werthoedd neu bersonoliaeth brand. Gallai myfyrwyr ysgrifennu beth yw eu dealltwriaeth nhw o'r term 'brand' ar fyrddau gwyn. (Brand yw...) Gallan nhw lunio diffiniad ar y cyd. Mae ambell i awgrym posibl ar y sleid.

Beth yw brand?

Brand yw:
  • Enw masnach a roddir ar gynnyrch fel Coca-Cola.
  • Dyluniad sy'n gwahaniaethu rhwng un math o nwyddau a math arall.
  • Hunaniaeth sefydliad, sy'n cysylltu ei holl gynnyrch.
  • Cynnyrch neu gyfres o gynhyrchion sydd â phersonoliaeth. Daw hyn o'i logo, y slogan sy'n cyd-fynd ag ef, delweddau, ac yn bwysicach fyth, ei gysylltiadau (y syniadau sy'n gysylltiedig â'r cynnyrch).
Mae gweithgareddau agoriadol wedi'u llunio i dynnu ar y wybodaeth sydd gan fyfyrwyr am logos a brandiau yn barod. Bydd myfyrwyr yn astudio'r ystod o logos sydd wedi'u tocio, ac yn ceisio adnabod y brand. Mae'r rhan fwyaf o'r logos yn hawdd eu hadnabod, sy'n arwain at y pwynt dysgu. Caiff y brandiau eu datgelu – mae brandiau'n defnyddio lliw, ffontiau unigryw, siâp a symbolau sy'n creu argraff yn eu logos er mwyn sefyll allan mewn marchnad gystadleuol.

Ydych chi'n gallu adnabod y brandiau o'u logos?

Logo: symbol gweledol sy'n cynrychioli brand neu gwmni

section of logo 1 section of logo 2 section of logo 3 section of logo 4 section of logo 5 section of logo 6 section of logo 7 section of logo 8 section of logo 9

A lwyddoch chi i adnabod pob un?

coca cola logo monster logo apple logo starbucks logo krispykreme logo loreal logo nike logo pepsi logo red bull logo

Beth wnaeth eich helpu chi?

Gofynnwch i fyfyrwyr beth yw'r brandiau byd-eang mwyaf, yn eu barn nhw. Cyswllt â dysgu – mae gan y brandiau logos eiconig unigryw. Gofynnwch i fyfyrwyr ddewis un maen nhw'n meddwl y gallan nhw dynnu ei lun i ymarfer sgiliau creadigol.

Y deg brand byd-eang mwyaf:

Ydych chi'n gallu tynnu llun unrhyw rai o'r logos? Oeddech chi'n gywir?

  1. Apple
  2. Microsoft
  3. Coca cola
  4. IBM
  5. Google
  6. Intel
  7. McDonald’s
  8. General Electric
  9. BMW
  10. Cisco [cwmni technoleg]
I baratoi ar gyfer y wers, torrwch y daflen brandiau (taflen o 10 brand). Mewn parau – rhoddir y logo i un myfyriwr, ac yna mae'n rhaid iddo ei ddisgrifio i'w bartner sy'n gorfod dyfalu pa frand ydyw. Gall geisio lluniadu’r logo gan ddefnyddio disgrifiad ei bartner. Cyn symud ymlaen, mae angen i fyfyrwyr bwyso a mesur eu hymgysylltiad â logos a gwneud rhestr o feini prawf ar gyfer logo effeithiol: unigryw a hawdd ei gopïo mewn ffurfiau gwahanol. Mae lliw yn bwysig, ond dylai'r logos gorau fod yn unigryw mewn du a gwyn hefyd. Mae angen gallu deall y logo yn hawdd ac mae angen iddo feddwl rhywbeth – a yw'n ateb cwestiynau fel 'pwy?' a 'beth?'. Mae patrymau cyffredin yn cynnwys tonnau (patrwm poblogaidd ymhlith cwmnïau technoleg), mynyddoedd (mae'n ymddangos eu bod yn awgrymu ymdrech am lwyddiant), mes (maen nhw'n awgrymu mynd yn ôl at wreiddiau, yn ogystal â'r potensial ar gyfer twf) a gwenyn.

Gweithgareddau logo:

  • Dewiswch logo rydych chi'n gyfarwydd ag ef. Yna, ceisiwch ei ddisgrifio i'ch partner mewn tair brawddeg cyn gofyn iddo dynnu llun o’r logo. Ni chewch chi enwi'r brand!
  • Ysgrifennwch 5 awgrym ar gyfer creu logo effeithiol. (Meddwl / paru / rhannu)
  • Tynnwch lun logo sy'n eich cynrychioli chi. Ceisiwch adlewyrchu eich personoliaeth (hunaniaeth y brand) a chofiwch yr awgrymiadau.
Canolbwyntiwch ar iaith a thechnegau sy’n cael ei ddefnyddio i greu sloganau. Mae sloganau effeithiol yn helpu i wneud brand yn gofiadwy. Mae ‘Beanz Meanz Heinz’ wedi cael ei ddefnyddio am dros 40 o flynyddoedd, mae'n dal yn berthnasol, ac mae cylchgrawn Creative Review wedi dweud mai dyma'r slogan gorau erioed.Mae sloganau yn aml yn angori ystyr ymgyrch benodol; gallan nhw gael eu gosod ar gerddoriaeth, gan ddod yn ganigau cofiadwy mewn hysbyseb teledu, a defnyddio rhythm, odl, cyflythreniad, ailadrodd a chwarae â geiriau i aros yn y cof. Gellir defnyddio'r daflen adnodd gyda'r sleid.

Slogan – ymadrodd byr sy'n atgoffa'r gynulleidfa am y cynnyrch neu’r brand

Mae sloganau yn aml yn llwyddo i ddal ysbryd ymgyrch. Nid yw'r rhan fwyaf o hysbysebion yn cael eu gweld yn y man prynu, felly mae'r cof yn dod yn bwysig iawn.

Ceisiwch adnabod y brand o'u sloganau

  • Every little helps
  • Think different
  • Beanz Meanz Heinz
  • Because you're worth it
  • Taste the rainbow
  • Live in your world. Play in ours.
  • eat fresh
  • Melt in your mouth, not in your hand.
  • I’m lovin’ it
  • so good
Defnyddir ystod eang o dechnegau i helpu i wneud sloganau'n gofiadwy. Mae mwy na'r rhai sydd wedi'u rhestru, ond gallwch ofyn i fyfyrwyr ddod o hyd i sloganau cyn creu montage gweledol o sloganau a thechnegau i'w ddangos yn yr ystafell ddosbarth – llythrennedd ar waith. Mae adnodd y gallwch ei argraffu, ei dorri a'i ddefnyddio yn y dosbarth ar gael hefyd.

Mae ystod o dechnegau ieithyddol yn cael eu defnyddio mewn sloganau i'w helpu i fod yn gofiadwy. Cysylltwch y termau isod â'u diffiniadau:

  • ailadrodd
  • cyflythreniad
  • ansoddair
  • onomatopeia
  • geiriau gwneud
  • gorchmynnol
  • personoli
  • arwyddocâd
  • cwestiwn rhethregol
  • rhagenwau personol
  • cyffelybiaeth
  • set geiriadurol
  • pan fydd gair neu ymadrodd yn digwydd sawl gwaith
  • ailadrodd synau cytsain ar ddechrau geiriau olynol
  • gair a ddefnyddir i ddisgrifio enw
  • mae sain gair yn adlewyrchu ei ystyr
  • gair y mae hysbysebwyr yn ei greu, yn aml trwy roi dau air at ei gilydd
  • gorchymyn
  • disgrifio gwrthrych fel pe bai ganddo nodweddion dynol
  • beth mae gair neu ddelwedd yn ei awgrymu
  • cwestiwn nad oes angen ateb uniongyrchol arno
  • defnydd o chi neu eich, etc.
  • cymhariaeth gan ddefnyddio 'fel' neu 'mor...â...'
  • geiriau sy'n perthyn i faes ieithyddol penodol
Llwytho Technegau Llenyddol i lawr

Rydych chi wedi cysylltu yn gywir.

Chwiliwch am enghreifftiau o'r rhain. Pa dechnegau eraill sy'n cael eu defnyddio? Ychwanegwch nhw at eich rhestr.

Mae'r hysbysebion a gaiff eu defnyddio yma yn hyrwyddo dealltwriaeth o'r effaith weledol y mae’r hysbysebion print gorau yn ei chreu. Nid eu dadansoddi'n fanwl yw'r bwriad, oherwydd gellir datblygu hyn yn ddiweddarach. Yn hytrach, y bwriad yw ysgogi trafodaeth ac archwilio. Mae taflen adnodd ar gael i fyfyrwyr, neu gellir eu rhoi ar y taflunydd. Gellir rhoi hysbysebion print gwahanol i grwpiau, gan ofyn i'r grwpiau roi adborth i'r dosbarth. Gellir gweld mwy o hysbysebion ysbrydoledig trwy'r cyswllt gwe.

Sut mae hysbysebion print yn gweithio?

Mae angen i hysbysebion print ennyn sylw a gwneud i ddarllenwyr ddeall ar gyfer beth mae'r hysbyseb, hyd yn oed cyn gweld enw'r brand.

Mae'r hysbysebion canlynol i gyd wedi ennill gwobrau am greadigrwydd a'u gallu i ddal sylw'r gynulleidfa.

Mewn parau/grwpiau, ewch ati i ystyried y canlynol:

  • Sut mae'r hysbysebion hyn yn gweithio?
  • Beth sydd wrth wraidd y syniad (cysyniad)?
  • Pa negeseuon sy'n cael eu trosglwyddo?
  • Sut maen nhw'n creu apêl ar gyfer y gynulleidfa?
  • Pwy yw'r gynulleidfa darged bosibl?
Wrth ymateb i'r cwestiynau, mae myfyrwyr yn dueddol o ddechrau'n gyffredinol iawn – mae 'wedi'i anelu at bawb' yn ymateb poblogaidd. Mae'n bwysig bod myfyrwyr yn defnyddio'r manylion yn yr hysbyseb i nodi pwy yw'r gynulleidfa darged debygol, a chyfiawnhau eu hatebion.

Hysbyseb 1

Mae'r hysbyseb hon yn gwneud cyswllt â'r ffilm a gafodd ei rhyddhau'n ddiweddar, Avengers Assemble. Mae'r ymgyrch hysbysebion print hon gan Band Aid yn dangos sut mae defnyddio cymeriad adnabyddus i gael yr effaith fwyaf bosibl. Nid oes testun na slogan yn yr enghraifft hon; dim ond y ddelwedd eiconig o law Hulk, ynghyd â'r cynnyrch yn y gornel dde ar waelod yr hysbyseb. Mae'n cyfleu cryfder y cynnyrch trwy ei roi ar gymeriad cryfaf y byd. Nid oes angen geiriau yma.

Hysbyseb 2

Mae'r ymgyrch hysbysebion print hon gan Panasonic yn dangos y dechnoleg i'w llawn botensial. Rhoddir sylw i’r manylion yn yr hysbyseb hon, yn y dinosor ac yn mise-en-scène y lleoliad. Mae cysyniad yr hysbyseb yn adrodd 'stori' sy'n pwysleisio pleser technolegol y cynnyrch.

Hysbyseb 3

Er bod McDonald's yn un o'r brandiau byd-eang mwyaf, mae'n dal i orfod meddwl am ffyrdd arloesol a newydd o hysbysebu. Mae'r farchnad bwyd cyflym yn un gystadleuol sy'n ehangu. Mae'r dyluniad hwn yn cynnwys blwch o sglodion wedi'i gerfio o'r cynhwysyn y maen nhw wedi'u gwneud ohono. Mae'r slogan a'r logo yn anymwthiol yn y gornel dde. Sut mae'r hysbyseb hon yn herio delwedd gyffredinol y brand bwyd cyflym? Beth mae eisiau ei ddweud wrth ei gynulleidfaoedd? At bwy fyddai'r hysbyseb hon yn apelio, a pham?

Hysbyseb 4

Y llynedd, fe wnaeth Penguin Books hyrwyddo ei lyfrau sain gydag ymgyrch hysbysebion print a oedd yn cynnwys delweddau o dri awdur adnabyddus – William Shakespeare, Mark Twain ac Oscar Wilde – fel clustffonau yn sibrwd yng nghlustiau'r gwrandäwr. Gellir adnabod delwedd Shakespeare ar unwaith, yn ogystal ag eicon modern y clustffonau. Mae cyfosod yr hen a'r newydd yn addo dod â thestunau clasurol i ddarllenwyr a gwrandawyr newydd. Unwaith eto, pwrpas logo eiconig Penguin yw angori'r ystyron sy’n cael eu creu, a byddai'n cael ei adnabod gan y gynulleidfa darged.

Hysbyseb 5

Mae'r ymgyrch 'Big Cat, Small Cat' yn dangos cath fach flewog fel cath fawr yn y gwyllt. Mae'r gyfres o hysbysebion yn yr ymgyrch hon yn cynnwys yr anifail anwes yn hela gafrewigod (gazelles), eliffantod a sebras yn y gwyllt. Mae'r cysyniad a'r elfennau gweledol yn cyfleu'r ystyr cyn i'r slogan angori'r hysbyseb. Mae'r brand adnabyddus i'w weld yn y gornel dde ar waelod yr hysbyseb.
Mewn termau syml, gellir esbonio hysbyseb brint yn y ffordd hon – delwedd, testun, trefniant. Mae hwn yn fan cychwyn y gellir ei ddatblygu.

Hysbysebion print

Mae hysbysebion print yn cynnwys:

  • Testun, delwedd a threfniant o elfennau
  • Angorau testun yn y ddelwedd i ychwanegu gwybodaeth
  • Delwedd sy'n adlewyrchu'r syniad ac sy'n aml yn gwerthu mwy na dim ond y cynnyrch ei hun
  • Trefniant o elfennau i ffurfio perthynas rhwng y ddau er mwyn trosglwyddo'r neges