Gan weithio gyda detholiad o hysbysebion, ystyriwch y cwestiynau canlynol ar gyfer pob hysbyseb:
- Nodwch ddwy o nodweddion yr hysbyseb ac eglurwch sut maen nhw'n nodweddiadol o hysbysebion print.
- Sut mae'r delweddau gweledol yn yr hysbyseb wedi cael eu defnyddio i hyrwyddo'r cynnyrch?
- Eglurwch sut mae llythrennu neu waith graffeg yn cael eu defnyddio yn yr hysbysebion.
- Eglurwch sut mae pobl yn cael eu cynrychioli yn yr hysbyseb. Gwnewch sylwadau am iaith y corff a chodau dillad. A oes mathau neu stereoteipiau amlwg?
- Sut mae gosodiad yr hysbyseb wedi cael ei ddefnyddio i dynnu sylw cynulleidfa?
- Nodwch dair o nodweddion nodweddiadol yr hysbysebion. Eglurwch bwrpas pob nodwedd.
- Awgrymwch gynulleidfa darged ar gyfer yr hysbyseb. Eglurwch y rhesymau am eich dewis.
- Awgrymwch ddwy nodwedd yn un o’r hysbysebion sy'n creu apêl ymysg y gynulleidfa. Eglurwch eich dewis.
- Eglurwch sut gallai cynulleidfa ymateb i'r hysbyseb.
- Rhowch ddau reswm pam mae hysbysebion print yn rhan bwysig o ymgyrch farchnata.
- Rhowch ddau reswm pam mae hysbysebwyr yn defnyddio'r rhyngrwyd hefyd i hyrwyddo eu cynnyrch.
- Meddyliwch am ymgyrch farchnata lwyddiannus. Eglurwch y rhesymau pam roedd yr ymgyrch yn llwyddiannus, yn eich barn chi.
Bydd y cwestiynau ehangach hyn yn helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer y papur arholiad, lle mae'n rhaid iddyn nhw dynnu ar eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r pwnc a chysylltu ag enghreifftiau maen nhw wedi eu hastudio yn y dosbarth neu wedi ymchwilio iddyn nhw.
Cwestiynau ehangach sy'n gysylltiedig â'ch enghreifftiau chi
- Yn ogystal â hysbysebion teledu, awgrymwch ddwy ffordd y mae hysbysebwyr yn cystadlu am gynulleidfaoedd. Eglurwch gan ddefnyddio eich enghreifftiau eich hun.
- Awgrymwch ddwy ffordd y mae datblygiad technolegau newydd a'r cyfryngau cymdeithasol wedi newid y byd hysbysebu.
- Beth yw’r manteision i adwerthwyr brandiau mawr o defnyddio technolegau newydd a chyfryngau cymdeithasol i ddenu cynulleidfaoedd?
- Dangoswch eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o hysbysebu a marchnata.
- Defnyddiwch derminoleg y cyfryngau.
- Dylech chi gynnwys cyfeiriadau manwl at eich enghreifftiau dosbarth eich hun.
- Trefnwch eich ateb yn glir.