Y SBECTOL HUD |

Gweithgaredd 6: Beth yw mesur y gerdd?

Cyfarwyddiadau

Cliciwch ar y tabiau i ddysgu am y gwahanol fesurau. Edrychwch yn ofalus ar y gerdd. Dewiswch pa fesur y mae’r gerdd yn ei ddefnyddio drwy glicio yn y cylch oren. Cliciwch ar y botwm 'Gwirio' i weld a oeddech ydych yn gywir.

  • Mae patrwm arbennig i’r gerdd.
  • Mae’r llinellau’n odli fesul cwpled, neu mae llinell 2 a 4 o bob pennill yn odli.
  • Mae’r penillion yn dilyn yr un mydr neu’r un rhythm â’i gilydd.
  • Nid oes cynghanedd fel arfer mewn cerdd mewn mydr ac odl.
  • Pennill o dair llinell yw englyn milwr.
  • Mae diwedd pob llinell o fewn pob pennill yn odli, ond gall yr odl fod yn acennog neu’n ddiacen.
  • Mae saith sillaf ym mhob llinell.
  • Mae cynghanedd yn llinell 1 a 3, ac mae’r darn ar ôl y gwant yn cynganeddu â dechrau’r ail linell.
  • Mae englyn penfyr yn union yr un peth ag englyn arferol, sef pennill pedair llinell, ond heb y llinell olaf.
  • Mae toriad byr (gwant) tua dwy ran o dair y ffordd i mewn i’r llinell gyntaf.
  • Mae’r gair cyn y gwant yn odli â llinell 2 a 3. Mae cynghanedd ym mhob llinell.
  • Mae 14 llinell mewn soned.
  • Mae’n dilyn y patrwm odli: a,b,a,b   c,ch,c,ch  d,dd,d,dd   e,e.
  • Mae deg sillaf ym mhob llinell.
  • Mae newid cyfeiriad yn arferol rhwng yr wyth llinell gyntaf (yr wythawd) a’r chwe llinell olaf (y chwechawd).
  • Nid oes trefn arbennig i’r odli nac i nifer y sillafau.
  • Mae mydr neu rythm o fewn y gwahanol linellau, ond nid oes patrwm amlwg yma.
  • Mae cynghanedd ym mhob llinell.

Y Sbectol Hud

Pan fydd yr haul yn cwato’r sêr i gyd,
a’r nos ar goll tu ôl i ddrws y dydd,
pan fydd y lleuad wen ym mhen draw’r byd,
a’r machlud fel y wawr ar orwel cudd;
neu pan fydd niwl yn gwisgo’r bryniau draw,
a phlu yr eira’n oeri brigau’r llwyn,
pan fydd y blodau trist yn crio’r glaw –
rho bâr o sbecs dychymyg am dy drwyn.

Ti’n gweld, mae gweld yn anodd ambell waith
a ninnau’n ddall i ryfeddodau’r byd,
am hyn, fy ffrind, cyn dechrau ar dy daith,
ym mhoced ôl dy jîns rho’r sbectol hud.
A gwisga hi, a mentra godi’r llen
i weld holl liwiau’r enfys sy’n dy ben.

Mererid Hopwood