Y SBECTOL HUD |

Gweithgaredd 4: Nodweddion arddull ac effaith y nodweddion

Cyfarwyddiadau

Gwnewch yn sicr eich bod yn gallu gweld y gerdd gyfan. Cliciwch ar ran o’r gerdd sydd wedi'i lliwio. Cliciwch ar y rhestr sy’n ymddangos i ddewis pa nodwedd arddull sydd yn y llinell dan sylw. Pan fyddwch wedi ateb yn gywir, ystyriwch yr ail gwestiwn sy’n ymddangos. Os oes angen cliw arnoch, cliciwch ar y botwm ‘Cliw?’ o dan y cwestiwn.

Y Sbectol Hud

Pan fydd yr haul yn cwato’r sêr i gyd,
a’r nos ar goll tu ôl i ddrws y dydd,
pan fydd y lleuad wen ym mhen draw’r byd,
a’r machlud fel y wawr ar orwel cudd;
neu pan fydd niwl yn gwisgo’r bryniau draw,
a phlu yr eira’n oeri brigau’r llwyn,
pan fydd y blodau trist yn crio’r glaw –
rho bâr o sbecs dychymyg am dy drwyn.

Ti’n gweld, mae gweld yn anodd ambell waith
a ninnau’n ddall i ryfeddodau’r byd,
am hyn, fy ffrind, cyn dechrau ar dy daith,
ym mhoced ôl dy jîns rho’r sbectol hud.
A gwisga hi, a mentra godi’r llen
i weld holl liwiau’r enfys sy’n dy ben.

Mererid Hopwood


. Pa nodwedd arddull sydd yma?
Allwch chi weld enghraifft o gyferbynnu yn y gerdd?

Dyma rai atebion:

a ninnau’n ddall/i weld holl liwiau’r enfys

machlud/y wawr.

Pam mae’r rhain yn effeithiol?
Allwch chi feddwl pam mae’n effeithiol?
Cliw?
Beth mae ‘nos’ a ‘dydd’ yn ei gynrychioli?
Meddyliwch beth gall y gair ‘gwisgo’ ei gynrychioli.
Canolbwyntiwch ar y gair 'dychymyg' yn hytrach na 'sbecs'.
Allwch chi weld enghraifft o gyferbynnu yn y gerdd?
Meddyliwch pa fath o ferf yw hon.