Cyfarwyddiadau
Cliciwch ar ran o’r gerdd sydd wedi'i lliwio. Cliciwch ar y rhestr sy’n ymddangos i ddewis pa nodwedd arddull sydd yn y llinell dan sylw. Os oes angen cliw arnoch, cliciwch ar y botwm ‘Cliw?’ o dan y rhestr. Pan fyddwch wedi ateb yn gywir, ystyriwch yr ail gwestiwn sy’n ymddangos.
Y Ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor
Yn fan hyn, aeafau’n ôl,
yn ddifaddau o feddwol,
fe’i gwelais; estynnais stôl.
Ordrais beint ar draws y bar
a’i gwylio, yn llawn galar,
yn ei sgert trwy’r mwg sigâr.
Yn ei llygaid tanbaid hi
roedd ’na gefnfor o stori,
a hyder a direidi
yn eu llawnder i’n herio,
trwy ryw wyrth, y dôi ein tro
ond a dal i’w lled-wylio …
Ym mrad yr edrychiadau,
yn sŵn ein dawns ni ein dau,
am ei swyn mi es innau
yn rhy ddedwydd freuddwydiol,
yn ddifaddau o feddwol,
yn fan hyn, aeafau’n ôl.
Rhys Iorwerth