Y FERCH WRTH Y BAR YNG NGHLWB IFOR |

Gweithgaredd 3: Beth yw neges y gerdd?

Cyfarwyddiadau

Edrychwch ar yr awgrymiadau am neges y gerdd. Trefnwch yr awgrymiadau drwy lusgo'r rhai gorau yn eich barn chi i frig y rhestr. Oes gennych chi awgrymiadau eraill?

Y Ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor

Yn fan hyn, aeafau’n ôl,
yn ddifaddau o feddwol,
fe’i gwelais; estynnais stôl.

Ordrais beint ar draws y bar
a’i gwylio, yn llawn galar,
yn ei sgert trwy’r mwg sigâr.

Yn ei llygaid tanbaid hi
roedd ’na gefnfor o stori,
a hyder a direidi

yn eu llawnder i’n herio,
trwy ryw wyrth, y dôi ein tro
ond a dal i’w lled-wylio …

Ym mrad yr edrychiadau,
yn sŵn ein dawns ni ein dau,
am ei swyn mi es innau

yn rhy ddedwydd freuddwydiol,
yn ddifaddau o feddwol,
yn fan hyn, aeafau’n ôl.

Rhys Iorwerth


Mae ysmygu yn ddrwg i chi.

Os oes rhywbeth yn mynd â’ch bryd, mae’n werth mynd amdano.

Mae pethau sy’n ymddangos yn hardd yn gallu bod yn beryglus.

Mae dawnsio’n ffordd dda o ddod i nabod rhywun.

Oes mwy nag un neges?
Ydych chi’n gallu gweld neges wahanol?