“WALKERS’ WOOD” |

Gweithgaredd 7: Allwch chi roi llinellau’r gerdd yn y drefn gywir?

Cyfarwyddiadau

Cliciwch ar y botwm 'Cychwyn yr amserydd'. Llusgwch y llinellau i’r man cywir i ailosod y gerdd yn gywir. Bydd y neges uwchben yr amserydd yn nodi sawl llinell sydd yn y man cywir.

“Walkers’ Wood”

Bore hydrefol hyfryd oedd hi a Betws-y-coed bron yn wag o ymwelwyr. Lliwiau gwych ar y coed, dim acenion main i’w clywed ar y llwybr – oedd, roedd hi’n foment farddonllyd. Ond yna, dyma’r bychan yn holi a dyma weld bod y fusutors wedi gwneud llanast o’r lle mewn mwy nag un ffordd. Dyna’r drwg efo’r diwydiant ymwelwyr – maen nhw’n dod yma gan ddyheu am baradwys ac yn mynd o’ma gan adael y lle’n stomp.


‘Oes ’na enw ar y coed ’ma, Dad?

– I mi gael dweud y stori fawr wrth Taid.’

‘Coed Llugwy ydi’r enw arnynt, was,

Ond Walkers’ Wood sydd yn y Betws Guide.’

‘Pam fod y dail ar hyd y ddaear, Dad?

Pam fod eu lliw run fath â crisps yn awr?’

‘Mae popty’r hydref wedi’u rhostio, was,

A’u taenu’n wledd ar hyd y llawr.’

‘Ble ddaeth hon, y ddeilen felen, Dad,

A dannedd mân ar hyd ei hymyl hi?’

‘Mae’i chwiorydd ar y gollen acw, was,

Sy’n rhannu ei gofidiau gyda’r lli.’

‘A hon, run lliw â cheiniog newydd, Dad?’

‘Mae twll ym mhwrs y ffawydd, beryg iawn.’

‘A’r rhain, fel darnau o jig-sô ’ta, Dad?’

‘Y dderwen acw ydi’r llun yn llawn.’

‘Oddi ar pa goeden y daeth nacw, Dad?

Mae’n wyrdd a glas, mae’n sgleinio yn y mwd.’

‘Paced o Walkers’ Crisps ’di hwnna, was,

Ar ôl y rhai fu’n crwydro Walkers’ Wood.’

Myrddin ap Dafydd


Hyd yma, mae 0 llinell yn gywir.