“WALKERS’ WOOD” |

Gweithgaredd 4: Nodweddion arddull ac effaith y nodweddion

Cyfarwyddiadau

Cliciwch ar ran o’r gerdd sydd wedi'i lliwio. Cliciwch ar y rhestr sy’n ymddangos i ddewis pa nodwedd arddull sydd yn y llinell dan sylw. Pan fyddwch wedi ateb yn gywir, ystyriwch yr ail gwestiwn sy’n ymddangos. Os oes angen cliw arnoch, cliciwch ar y botwm ‘Cliw?’ o dan y cwestiwn.

“Walkers’ Wood”

Bore hydrefol hyfryd oedd hi a Betws-y-coed bron yn wag o ymwelwyr. Lliwiau gwych ar y coed, dim acenion main i’w clywed ar y llwybr – oedd, roedd hi’n foment farddonllyd. Ond yna, dyma’r bychan yn holi a dyma weld bod y fusutors wedi gwneud llanast o’r lle mewn mwy nag un ffordd. Dyna’r drwg efo’r diwydiant ymwelwyr – maen nhw’n dod yma gan ddyheu am baradwys ac yn mynd o’ma gan adael y lle’n stomp.

‘Oes ’na enw ar y coed ’ma, Dad?
– I mi gael dweud y stori fawr wrth Taid.’
‘Coed Llugwy ydi’r enw arnynt, was,
Ond Walkers’ Wood
sydd yn y Betws Guide.’

‘Pam fod y dail ar hyd y ddaear, Dad?
Pam fod eu lliw run fath â crisps yn awr?’

‘Mae popty’r hydref wedi’u rhostio, was,
A’u taenu’n wledd ar hyd y llawr.’

‘Ble ddaeth hon, y ddeilen felen, Dad,
A dannedd mân ar hyd ei hymyl hi?’

‘Mae’i chwiorydd ar y gollen acw, was,
Sy’n rhannu ei gofidiau gyda’r lli.’

‘A hon, run lliw â cheiniog newydd, Dad?’
‘Mae twll ym mhwrs y ffawydd, beryg iawn.’
‘A’r rhain, fel darnau o jig-sô ’ta, Dad?’
‘Y dderwen acw ydi’r llun yn llawn.’

‘Oddi ar pa goeden y daeth nacw, Dad?
Mae’n wyrdd a glas, mae’n sgleinio yn y mwd.’

‘Paced o Walkers’ Crisps ’di hwnna, was,
Ar ôl y rhai fu’n crwydro Walkers’ Wood.’

Myrddin ap Dafydd


. Pa nodwedd arddull sydd yma?
Allwch chi feddwl pam mae’n effeithiol?
Cliw?
Ai'r iaith yn unig sy'n wahanol? Beth sydd wedi ei golli wrth newid yr enw i’r Saesneg?
Beth mae popty’n ei wneud sy'n debyg i’r hydref? Meddyliwch am y newid lliw. Edrychwch ar y llinell nesaf. Beth yn y llinell hon sy’n cryfhau’r trosiad? Ydy’r popty’n rhoi awgrym o’r hyn sydd i ddod yn y gerdd?
Meddyliwch am siâp deilen y dderwen. Chwiliwch am lun ar y We os nad ydych chi’n gyfarwydd â’r siâp. Oes tebygrwydd i jigso? Sut mae’r llinell nesaf yn ychwanegu at y gyffelybiaeth?
Ydy’r rhestr yma’n creu argraff dda neu wael i ddechrau? O wybod beth mae’n ei ddisgrifio, ydy eich argraff chi’n newid ychydig?