Cyfarwyddiadau
Edrychwch ar yr awgrymiadau am neges y gerdd. Trefnwch yr awgrymiadau drwy lusgo'r rhai gorau yn eich barn chi i frig y rhestr. Oes gennych chi awgrymiadau eraill?
“Walkers’ Wood”
Bore hydrefol hyfryd oedd hi a Betws-y-coed bron yn wag o ymwelwyr. Lliwiau gwych ar y coed, dim acenion main i’w clywed ar y llwybr – oedd, roedd hi’n foment farddonllyd. Ond yna, dyma’r bychan yn holi a dyma weld bod y fusutors wedi gwneud llanast o’r lle mewn mwy nag un ffordd. Dyna’r drwg efo’r diwydiant ymwelwyr – maen nhw’n dod yma gan ddyheu am baradwys ac yn mynd o’ma gan adael y lle’n stomp.
‘Oes ’na enw ar y coed ’ma, Dad?
– I mi gael dweud y stori fawr wrth Taid.’
‘Coed Llugwy ydi’r enw arnynt, was,
Ond Walkers’ Wood sydd yn y Betws Guide.’
‘Pam fod y dail ar hyd y ddaear, Dad?
Pam fod eu lliw run fath â crisps yn awr?’
‘Mae popty’r hydref wedi’u rhostio, was,
A’u taenu’n wledd ar hyd y llawr.’
‘Ble ddaeth hon, y ddeilen felen, Dad,
A dannedd mân ar hyd ei hymyl hi?’
‘Mae’i chwiorydd ar y gollen acw, was,
Sy’n rhannu ei gofidiau gyda’r lli.’
‘A hon, run lliw â cheiniog newydd, Dad?’
‘Mae twll ym mhwrs y ffawydd, beryg iawn.’
‘A’r rhain, fel darnau o jig-sô ’ta, Dad?’
‘Y dderwen acw ydi’r llun yn llawn.’
‘Oddi ar pa goeden y daeth nacw, Dad?
Mae’n wyrdd a glas, mae’n sgleinio yn y mwd.’
‘Paced o Walkers’ Crisps ’di hwnna, was,
Ar ôl y rhai fu’n crwydro Walkers’ Wood.’
Myrddin ap Dafydd
Mae’n bwysig plannu coed er mwyn helpu’r amgylchedd.
Mae’n bwysig edrych ar ôl yr hyn sydd gennym ni.
Mae sbwriel yn broblem fawr yng nghefn gwlad.
Mae rhai ymwelwyr yn gallu gwneud niwed i’n gwlad ni.