TAI UNNOS |

Gweithgaredd 7: Allwch chi roi llinellau’r gerdd yn y drefn gywir?

Cyfarwyddiadau

Cliciwch ar y botwm 'Cychwyn yr amserydd'. Llusgwch y llinellau i’r man cywir i ailosod y gerdd yn gywir. Bydd y neges uwchben yr amserydd yn nodi sawl llinell sydd yn y man cywir.

Tai Unnos

Sbwriel oes yr iâ oedd y cerrig llyfnion

orweddai'n flêr hyd lannau’r afon:

sbarion a shafins cŷn a morthwyl y rhewlif

a siapiodd bob dyffryn ganrif wrth ganrif:

ac â’r sbwriel cododd ein cyndeidiau'n ddyfal

fwthyn clyd yn nhro’r afon, ar seiliau petryal;

gosod carreg ar garreg rhwng gwyll a gwawr,

a chynnau tân cyn i’r landlord dynnu’r cyfan i lawr;

hawlio darn o dir a’i godi’n aelwyd

drwy nerth bôn braich troi llafur yn freuddwyd:

ar lannau traffyrdd y dinasoedd llwydion,

ac yng nghesail goncrid swyddfeydd gweigion,

dan bontydd ffyrdd osgoi, mewn meysydd parcio mae rhai

yn eu dyblau heno hefyd wrthi’n codi tai,

rhoi trefn ar sbwriel dan y sêr,

hawlio darn o dir â bocsys cardbord blêr.

Iwan Llwyd


Hyd yma, mae 0 llinell yn gywir.