TAI UNNOS |

Gweithgaredd 3: Beth yw neges y gerdd?

Cyfarwyddiadau

Edrychwch ar yr awgrymiadau am neges y gerdd. Trefnwch yr awgrymiadau drwy lusgo'r rhai gorau yn eich barn chi i frig y rhestr. Oes gennych chi awgrymiadau eraill?

Tai Unnos

Sbwriel oes yr iâ oedd y cerrig llyfnion
orweddai'n flêr hyd lannau’r afon:

sbarion a shafins cŷn a morthwyl y rhewlif
a siapiodd bob dyffryn ganrif wrth ganrif:

ac â’r sbwriel cododd ein cyndeidiau'n ddyfal
fwthyn clyd yn nhro'r afon, ar seiliau petryal;

gosod carreg ar garreg rhwng gwyll a gwawr,
a chynnau tân cyn i’r landlord dynnu’r cyfan i lawr;

hawlio darn o dir a’i godi’n aelwyd
drwy nerth bôn braich troi llafur yn freuddwyd:

ar lannau traffyrdd y dinasoedd llwydion,
ac yng nghesail goncrid swyddfeydd gweigion,

dan bontydd ffyrdd osgoi, mewn meysydd parcio mae rhai
yn eu dyblau heno hefyd wrthi’n codi tai,

rhoi trefn ar sbwriel dan y sêr,
hawlio darn o dir â bocsys cardbord blêr.

Iwan Llwyd


Dylem ni gael codi tai lle bynnag rydym ni eisiau.

Mae angen lle i fyw ar bobl ddigartref.

Rydym ni wedi gwella llawer ers Oes yr Iâ.

Mae pobl yn dal i gael trafferth cael cartref.

Oes mwy nag un neges?
Ydych chi’n gallu gweld neges wahanol?