Cyfarwyddiadau
Mae rhestr o’r geiriau coll ar ymyl dde’r sgrin. Cliciwch ar flwch glas yn y gerdd ac yna cliciwch ar y gair cywir uwch ei ben i’w osod yn y bwlch. Wedi llenwi’r holl fylchau, cliciwch ar y botwm 'Gwirio'. Gallwch ailymweld â’r dasg i newid ateb anghywir, cyn gwirio eto.
Tai Unnos
Sbwriel oes yr iâ oedd y llyfnion
orweddai'n flêr hyd lannau’r afon:
a shafins cŷn a morthwyl y rhewlif
a siapiodd bob ganrif wrth ganrif:
ac â’r sbwriel cododd ein cyndeidiau'n ddyfal
fwthyn clyd yn nhro'r afon, ar petryal;
gosod ar garreg rhwng gwyll a gwawr,
a chynnau tân cyn i’r landlord dynnu’r cyfan i lawr;
hawlio darn o dir a’i godi’n
drwy nerth bôn braich troi llafur yn freuddwyd:
ar lannau traffyrdd y dinasoedd llwydion,
ac yng nghesail swyddfeydd gweigion,
dan bontydd ffyrdd osgoi, mewn meysydd parcio mae rhai
yn eu heno hefyd wrthi’n codi tai,
rhoi trefn ar dan y sêr,
hawlio darn o dir â bocsys blêr.
Iwan Llwyd
- aelwyd
- cardbord
- carreg
- cerrig
- concrid
- dyblau
- dyffryn
- sbarion
- sbwriel
- seiliau