RHAID PEIDIO DAWNSIO … |

Gweithgaredd 3: Beth yw neges y gerdd?

Cyfarwyddiadau

Edrychwch ar yr awgrymiadau am neges y gerdd. Trefnwch yr awgrymiadau drwy lusgo'r rhai gorau yn eich barn chi i frig y rhestr. Oes gennych chi awgrymiadau eraill?

Rhaid Peidio Dawnsio …

Rhaid peidio dawnsio yng Nghaerdydd
rhwng wyth a deg y bore,
mae camerâu yr Heddlu Cudd
a’r Cyngor am y gore
yn edrych mas i weld pwy sydd
yn beiddio torri’r rheol
na chaiff neb ddawnsio yng Nghaerdydd
ar stryd na pharc na heol.

Mae dawnsio wedi deg o’r gloch
yn weithred a gyfyngir
i chwarter awr mewn ’sgidiau coch
mewn mannau lle’r hebryngir
y dawnswyr iddynt foch ym moch,
heb oddef stranc na neidio,
ac erbyn un ar ddeg o’r gloch
rhaid i bob dawnsio beidio.

Ond ambell Chwefror ar ddydd Iau,
pan fydd y niwl a’r barrug
yn fwgwd am y camerâu
fel bo’r swyddogion sarrug
yn swatio’n gynnes yn eu ffau
gan ddal diodydd poethion,
mae’r stryd yn llawn o naw tan ddau
o ddawns y sodlau noethion.

Emyr Lewis


Mae rheolau’n bethau da.

Mae angen torri rheolau weithiau.

Mae’r wladwriaeth yn ceisio ein rheoli ni.

Mae dawnsio’n gwneud lles i bobl.

Oes mwy nag un neges?
Ydych chi’n gallu gweld neges wahanol?