Cyfarwyddiadau
Mae rhestr o’r geiriau coll ar ymyl dde’r sgrin. Cliciwch ar flwch glas yn y gerdd ac yna cliciwch ar y gair cywir uwch ei ben i’w osod yn y bwlch. Wedi llenwi’r holl fylchau, cliciwch ar y botwm 'Gwirio'. Gallwch ailymweld â’r dasg i newid ateb anghywir, cyn gwirio eto.
Rhaid Peidio Dawnsio …
Rhaid peidio yng Nghaerdydd
rhwng wyth a deg y bore,
mae yr Heddlu Cudd
a’r Cyngor am y gore
yn edrych mas i weld pwy sydd
yn torri’r rheol
na chaiff neb ddawnsio yng Nghaerdydd
ar na pharc na heol.
Mae dawnsio wedi deg o’r gloch
yn weithred a gyfyngir
i chwarter awr mewn coch
mewn lle’r hebryngir
y dawnswyr iddynt foch ym moch,
heb oddef na neidio,
ac erbyn un ar ddeg o’r gloch
rhaid i bob dawnsio beidio.
Ond ambell Chwefror ar ddydd Iau,
pan fydd y a’r barrug
yn am y camerâu
fel bo’r swyddogion sarrug
yn swatio’n gynnes yn eu ffau
gan ddal poethion,
mae’r stryd yn llawn o naw tan ddau
o ddawns y sodlau noethion.
Emyr Lewis
- beiddio
- camerâu
- dawnsio
- diodydd
- fwgwd
- mannau
- niwl
- ’sgidiau
- stranc
- stryd